Beth gallwch ei gael

Os ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol. Gallwch gael swm ychwanegol o arian i helpu i dalu eich costau tai.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gall yr arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai eich helpu i dalu eich:

Unwaith y byddwch wedi dechrau hawlio, mae angen i chi rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau. Os na wnewch hyn, gall eich budd-daliadau stopio.

Os ydych mewn tai â chymorth, tai gwarchod, neu dai dros dro

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol i helpu â chostau byw. Mae a fydd yn gallu eich helpu â chostau tai yn dibynnu ar eich llety ac sut mae’n eich cefnogi.

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol i helpu â chostau tai os yw’r ddau’n berthnasol:

  • rydych yn byw mewn tai â chymorth neu dai gwarchod
  • nid ydych yn cael ‘gofal, cymorth, neu oruchwyliaeth’ trwy eich tai

Ni allwch gael Credyd Cynhwysol i dalu am gostau tai os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn byw mewn tai â chymorth neu dai gwarchod (fel hostel) sy’n darparu ‘gofal, cymorth, neu oruchwyliaeth’ i chi
  • rydych yn byw mewn llety dros dro a drefnir gan eich cyngor gan eich bod yn ddigartref
  • rydych yn byw mewn lloches i ddioddefwyr trais domestig

Gwnewch gais am Fudd-dal Tai yn lle.

Help arall â chostau tai

Gallwch wneud cais am help ag anawsterau ariannol o’ch prif daliad Credyd Cynhwysol.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael:

Efallai y bydd eich budd-daliadau yn gostwng os byddwch yn cael mwy na’r symiau cap ar fudd-daliadau.

Os nad yw’r arian a gewch ar gyfer tai yn ddigon i dalu’ch holl rent

Efallai y gallwch gael help ychwanegol gan eich cyngor lleol gyda’ch rhent a chostau tai eraill, er enghraifft blaendal rhent neu gostau symud. Gelwir hyn yn ‘Taliad Disgresiwn at Gostau Tai’.

I wneud cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai, cysylltwch â’ch cyngor lleol.

Os byddwch yn newid eich cyfeiriad

Bydd y swm o arian a gewch am dai bob mis yn seiliedig ar eich costau tai ar ddiwedd eich cyfnod asesu.

Os ydych yn dod yn ddigartref tra rydych yn cael Credyd Cynhywsol

Mae rhaid i chi roi gwybod am hyn yn eich cyfrif ar-lein. Gall eich anogwr gwaith roi seibiant i chi (gelwir hyn yn ‘hawddfraint’) o’ch cyfrifoldebau Ymrwymiad Hawlydd fel bod gennych amser i chwilio am lety. Gallwch barhau i hawlio Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn byw yn yr Alban

Gallwch gael eich swm ychwanegol am gostau tai naill ai wedi eu:

  • talu i chi yn eich taliad Credyd Cynhwysol
  • talu’n syth i’r landlord

Gallwch ddewis a yw Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu unwaith neu ddwywaith y mis.

Os ydych yn gwneud cais newydd, cewch hysbysiad am hyn ar ôl eich taliad cyntaf.

Os ydych eisioes yn cael Credyd Cynhwysol ac nad ydych wedi cael hysbysiad, gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith.

Dyddiadau talu yn yr Alban

Gallwch ddewis cael eich talu unwaith neu ddwywaith y mis.

Pan fyddwch yn cael eich talu ddwywaith y mis, bydd eich taliad cyntaf am fis llawn. Fe gewch hanner cyntaf o daliad eich ail fis, mis ar ôl hyn. Bydd yr ail hanner yn cael ei dalu 15 diwrnod yn ddiweddarach. Mae hyn yn golygu y bydd tua mis a hanner rhwng eich taliad cyntaf a’r swm llawn ar gyfer eich ail fis.

Ar ôl hyn, cewch eich talu ddwywaith y mis.

Enghraifft

Rydych yn cael eich taliad cyntaf ar 14 Rhagfyr. Mae’r taliad hwn am fis llawn.

Os ydych yn cael eich talu ddwywaith y mis, cewch hanner eich ail daliad ar 14 Ionawr a’r hanner arall ar 29 Ionawr.

Byddwch yn cael eich talu ar y 14eg a’r 29ain o bob mis ar ôl hynny.