Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae angen i chi roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau fel eich bod yn parhau i gael y swm cywir bob mis.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau wrth iddynt ddigwydd. Gall unrhyw oedi olygu eich bod yn cael gormod o arian a bydd yn rhaid i chi wneud ad-daliad.

Gall newidiadau yn eich amgylchiadau effeithio ar faint rydych yn cael eich talu am y cyfnod asesu gyfan – nid ond o’r dyddiad rydych yn rhoi gwybod.

Gall newidiadau gynnwys:

  • dod o hyd i neu orffen swydd
  • cael plentyn
  • symud i mewn gyda’ch partner
  • dechrau gofalu am blentyn neu berson anabl
  • newid eich rhif ffôn symudol neu’ch cyfeiriad e-bost
  • symud i gyfeiriad newydd
  • newid eich manylion banc
  • eich rhent yn mynd i fyny neu i lawr
  • newidiadau i’ch cyflwr iechyd
  • dod yn rhy sâl i weithio neu i gyfarfod â’ch anogwr gwaith
  • newidiadau i’ch enillion (dim ond os ydych yn hunangyflogedig)
  • newidiadau i’ch cynilion, buddsoddiadau a faint o arian sydd gennych
  • newidiadau i’ch statws mewnfudo, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig.

Efallai bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu ddim yn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau.

Sut i roi gwybod

Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol.

Os byddwch yn cael swydd neu’n cynyddu’r oriau rydych yn eu gweithio

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau neu siaradwch â’ch anogwr gwaith i gael gwybod am sut y gallai cael swydd neu gynyddu eich enillion effeithio’ch cais Credyd Cynhwysol.

Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn adrodd eich enillion ar eich cyfer. Fel arfer, bydd ond rhaid i chi roi gwybod am eich enillion misol os ydych yn hunangyflogedig.

Os oes gormod wedi ei dalu i chi

Efallai bydd yn rhaid i chi dalu’n ôl yr arian os ydych:

  • wedi methu rhoi gwybod am newid ar unwaith
  • wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • wedi cael eich gordalu mewn camgymeriad

Gwybodaeth am sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.

Os ydych yn nesáu at ddiwedd oes

Efallai y gallwch gael arian ychwanegol os ydych yn nesáu at ddiwedd oes o ganlyniad i salwch. Efallai y gallwch hefyd gael budd-daliadau eraill

Os dywedwyd wrthych efallai fod gennych fwy na 12 mis i fyw

Bydd angen i chi roi gwybod am hyn yn yr un ffordd ag rydych yn rhoi gwybod am unrhyw newid arall mewn amgylchiadau.

Os dywedwyd wrthych efallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw

Rhowch wybod am y newid ar-lein trwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Cysylltir â chi ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.

Gallwch hefyd gael rhywun arall i roi gwybod am y newid ar eich rhan. Dylen nhw ofyn i feddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol i lenwi ffurflen SR1.

Bydd y ffurflenni gan y meddyg yn barod. Gall naill ai’r meddyg neu eich cynrychiolydd ei anfon i:

Freepost
Department for Work and Pensions
Universal Credit Full Service

Os ydych eisoes wedi anfon ffurflen SR1 ar gyfer budd-dal arall, er enghraifft Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, nid oes angen i chi ei hanfon eto.

Ni fydd angen i chi gael Asesiad Gallu i Weithio.