Rhentu gan landlord preifat

Os ydych yn gymwys ar gyfer credyd cynhwysol gallwch gael help i dalu am eich rhent a rhai taliadau gwasanaeth.

Rydych fel arfer yn cael y swm ychwanegol ar gyfer chostau tai yn eich taliad Credyd Cynhwysol ac fel arfer mae’n rhaid i chi ei dalu i’ch landlord.

Gallwch wneud cais am help gydag anawsterau ariannol o’ch prif daliad Credyd Cynhwysol.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael Gostyngiad Treth Cyngor.

Faint byddwch yn ei gael am gostau tai

Mae’r swm o arian rydych yn ei gael am gostau tai yn dibynnu ar:

  • faint eich aelwyd
  • eich oedran
  • ble rydych chi’n byw

Os ydych o dan 35 oed a’n byw ar eich pen eich hun

Os ydych o dan 35 ac nad yn byw gyda phartner neu blant, fel arfer gallwch ond hawlio ar gyfer ystafell sengl mewn tŷ a rennir. Gelwir hyn yn gyfradd llety a rennir y Lwfans Tai Lleol (SAR).

Gallwch ddefnyddio’r Teclyn Lwfans Tai Lleol i ddarganfod y gyfradd yn eich ardal. Dewiswch ‘shared accommodation’ ar gyfer y nifer o ystafelloedd gwely.

Gallwch gael mwy na’r SAR, os ydych:

  • yn ymadawr gofal ac rydych o dan 25 oed
  • wedi byw mewn hostel ar gyfer pobl ddigartref am o leiaf 3 mis mewn cyfanswm
  • yn gyn-droseddwr ac o dan reolaeth Cytundeb Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA)
  • yn cael elfen bywyd bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • yn cael elfen gofal Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar y gyfradd ganolig neu uwch
  • yn cael Lwfans Gweini neu Lwfans Gweini Cyson
  • yn cael Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • yn ddioddefwr camdriniaeth ddomestig
  • yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern

Os ydych dros 35 oed a’n byw ar eich pen eich hun

Os ydych yn 35 oed neu’n hŷn a’n byw ar eich pen eich hun, gallwch hawlio ar gyfer eiddo ag un ystafell wely. Gallwch ddefnyddio’r teclyn Lwfans Tai Lleol i ddod o hyd i’r gyfradd yn eich ardal.

Os ydych yn byw gyda phartner neu deulu

Os ydych yn byw gyda phartner neu os oes gennych blant, mae’r swm o arian a gewch yn seiliedig ar faint o ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich teulu.

Disgwylir i’r ganlynol rhannu ystafell wely:

  •  cwpl sy’n oedolion
  • 2 blentyn o dan 16 oed o’r un rhyw
  • 2 blentyn dan 10 oed (waeth beth fo’u rhyw)

Gall y canlynol cael ystafell i’w hun:

  • oedolyn sengl (16 oed neu’n hŷn)
  • plentyn a fyddai fel arfer yn rhannu ond mae’r ystafelloedd gwely a rennir eisoes wedi’u cymryd, er enghraifft mae gennych 3 o blant ac mae 2 eisoes yn rhannu
  • cwpl neu blant na allant rannu oherwydd anabledd neu gyflwr meddygol
  • gofalwr dros nos i chi, eich partner, eich plentyn neu oedolyn arall - dim ond os nad yw’r gofalwr yn byw gyda chi ond weithiau mae’n rhaid iddo aros dros nos

Gallwch ddefnyddio’r Teclyn Lwfans Tai Lleol i ddarganfod y gyfradd yn eich ardal.

Os ydych yn byw gyda rhywun sy’n 21 oed neu’n hŷn ac nad ydynt yn bartner i chi

Mae’r swm o arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai fel arfer yn cael ei leihau os ydych yn byw gyda rhywun sy’n 21 oed neu’n hŷn ac nad ydynt yn bartner i chi.

Ni fydd eich taliad yn cael ei leihau os ydych yn un o’r canlynol:

  • cael elfen gofal Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar y gyfradd ganol neu uwch
  • cael elfen bywyd bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • cael Lwfans Gweini
  • cael Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • wedi eich cofrestru’n ddall

Hefyd ni chaiff ei leihau os yw’r person 21 oed neu hŷn yn un o’r canlynol:

  • cael Credyd Pensiwn
  • cael elfen gofal Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar y gyfradd ganol neu uwch
  • cael elfen bywyd bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • cael Lwfans Gweini
  • cael Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • cael Lwfans Gofalwr
  • cael Taliad Gymorth i Ofalwyr
  • yn gyfrifol am blentyn o dan 5 oed
  • yn aelod o’r lluoedd arfog i ffwrdd ar weithrediadau ac yn blentyn neu’n Llysblentyn i chi
  • eich is-denant, lletywr neu breswylydd
  • yn garcharor

Os ydych yn talu rhent ar 2 gartref

Gallwch hawlio rhent ar 2 gartref ar yr un pryd os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi symud allan oherwydd ofn trais neu gamdriniaeth, rydych yn talu rhent yn rhywle arall, ac yn bwriadu dod yn ôl
  • rydych wedi dechrau rhentu cartref newydd gydag aelod o’r teulu sy’n anabl ond nad yw wedi’i chael ei addasu i’w hanghenion eto

Os ydych ar ei hôl hi â’ch rhent

Os ydych ar ei hôl hi â’ch rhent, gallai’r arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai gael ei anfon yn syth i’ch landlord. Gelwir hyn yn drefniant talu amgen (APA).

Gallwch wneud cais am APA trwy’ch anogwr gwaith. Gall eich landlord hefyd wneud y cais.

Gallwch wneud cais am daliadau ymlaen llaw neu daliadau caledi o’ch prif daliad Credyd Cynhwysol.

Os nad yw’r arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai yn cwmpasu eich holl rent

Ni fydd y swm ychwanegol o arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai yn cwmpasu eich holl rent pob tro. Efallai bydd angen i chi dalu gweddill eich rhent o’ch taliad Credyd Cynhwysol neu incwm arall.

Efallai gallwch gael help ychwanegol gan eich cyngor lleol gyda’ch rhent a chostau tai eraill, er enghraifft blaendal rhent neu gostau symud. Gelwir hyn yn ‘Daliad Disgresiwn at Gostau Tai’.

I wneud cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai, cysylltwch â’ch cyngor lleol