Sut i gynyddu eich incwm mewn ymddeoliad

Gallwch gael cyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol os ydych eisiau mwy o wybodaeth am gynyddu eich incwm mewn ymddeoliad.

Ychwanegu at eich cofnod Yswiriant Gwladol

Mae pob blwyddyn gymhwyso a ychwanegir at eich cofnod Yswiriant Gwladol ar ôl 6 Ebrill 2016 yn cynyddu swm eich Pensiwn y Wladwriaeth, hyd at y gyfradd lawn (£221.20 yr wythnos).

Dylech gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth neu edrychwch ar eich llythyr dyfarniad Pensiwn y Wladwriaeth i weld beth fyddwch yn ei gael.

Efallai y byddwch yn gallu ychwanegu mwy o flynyddoedd cymhwyso Yswiriant Gwladol drwy:

Mae blynyddoedd lle cawsoch eich eithrio allan yn cyfrif fel blynyddoedd cymwys ac nid ydynt yn fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Pensiynau gweithle neu bensiynau personol

Gallwch dalu i mewn i bensiwn gweithle neu bensiwn personol.

Gweithio ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch barhau i weithio pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os byddwch yn gwneud hynny, byddwch yn stopio talu Yswiriant Gwladol.

Oedi (gohirio) eich Pensiwn y Wladwriaeth

Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu bob wythnos y byddwch yn oedi (gohirio) gwneud cais amdano, cyn belled â’ch bod yn gohirio am o leiaf 9 wythnos.

Am bob blwyddyn rydych chi’n oedi cyn hawlio, bydd eich taliadau wythnosol yn cynyddu ychydig o dan 5.8%.

Ni allwch gronni’r Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol hwn os ydych yn cael budd-daliadau penodol. Gall gohirio hefyd effeithio ar faint y gallwch ei gael mewn budd-daliadau.[Oedi (gohirio) eich Pensiwn y Wladwriaeth: Sut mae’n gweithio - GOV.UK

Budd-daliadau eraill os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am Gredyd Pensiwn, hyd yn oed os ydych wedi cynilo arian ar gyfer ymddeoliad.

Os oes gennych anabledd a bod rhywun yn helpu i ofalu amdanoch chi, efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Gweini.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau a chymorth ariannol eraill.