Pensiwn Newydd y Wladwriaeth

Neidio i gynnwys y canllaw

Etifeddu neu gynyddu Pensiwn y Wladwriaeth gan briod neu bartner sifil

Efallai y byddwch yn gallu etifeddu taliad ychwanegol ar ben eich Pensiwn newydd y Wladwriaeth os ydych yn weddw.

Ni fyddwch yn gallu etifeddu unrhyw beth os byddwch yn ailbriodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil newydd cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Efallai y byddwch yn etifeddu rhan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth eich partner ymadawedig os dechreuodd eich priodas neu bartneriaeth sifil gyda nhw cyn 6 Ebrill 2016 ac mae un o’r canlynol yn berthnasol:

  • cyrhaeddodd eich partner oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
  • gwnaethant farw cyn 6 Ebrill 2016 ond byddent wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw

Bydd yn cael ei dalu gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth.

Etifeddu taliad a ddiogelir

Byddwch yn etifeddu hanner taliad a ddiogelir eich partner os dechreuodd eich priodas neu bartneriaeth sifil gyda nhw cyn 6 Ebrill 2016 a:

  •  bu iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016
  • gwnaethant farw ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016

Bydd yn cael ei dalu gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth.

Etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad

Efallai y byddwch yn etifeddu rhan o neu holl Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol eich partner neu gyfandaliad os:

  • bu iddynt farw tra roedd eu Pensiwn y Wladwriaeth wedi’i oedi (cyn gwneud cais amdano) neu eu bod wedi dechrau ei hawlio ar ôl gohirio
  • bu iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
  • roeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil pan fu iddynt farw

Cofnod Yswiriant Gwladol eich partner a’ch Pensiwn y Wladwriaeth

Mae Pensiwn newydd y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol chi.

Os gwnaethoch dalu cyfraniadau cyfradd is i ferched priod, efallai y byddwch yn gallu cynyddu eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth os ydych yn gymwys.

Os byddwch yn ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil

Gall y llysoedd wneud ‘gorchymyn rhannu pensiwn’ os ydych yn ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil.

Byddwch yn cael taliad ychwanegol ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth os yw eich cyn-bartner yn cael gorchymyn i rannu eu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth neu daliad a ddiogelir gyda chi

Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei leihau os cewch orchymyn i rannu eich Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth neu daliad a ddiogelir gyda’ch partner.