Byw a gweithio dramor

Os ydych yn byw neu weithio mewn gwlad arall, efallai gallech gyfrannu tuag at gynllun Pensiwn y Wladwriaeth y wlad honno.

Os ydych wedi byw neu weithio mewn gwlad arall yn y gorffennol, gallech fod yn gymwys i bensiwn y wladwriaeth y wlad honno a Phensiwn y Wladwriaeth y DU.

I wirio a ydych yn gallu talu i mewn a chael pensiwn y wladwriaeth gan wlad arall, cysylltwch â gwasanaeth pensiwn y wlad honno.

Gwneud cais am bensiwn y wladwriaeth gwlad arall

Yn dibynnu ar ble rydych wedi byw neu weithio, efallai y bydd rhaid i chi wneud mwy nag un cais am bensiwn.

Gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), Gibraltar a’r Swistir

Dim ond o’r wlad ddiwethaf y gwnaethoch fyw neu weithio ynddi y mae angen i chi wneud cais am eich pensiwn y wladwriaeth. Bydd eich cais yn cynnwys pob gwlad yr AEE, Gibraltar a’r Swistir. Nid oes angen i chi wneud cais i bob gwlad ar wahân.

Gwledydd y tu allan i’r AEE (ac eithrio’r Swistir)

Mae angen i chi wneud cais am eich pensiwn o bob gwlad ar wahân.

I ddarganfod sut i wneud cais cysylltwch â gwasanaeth pensiwn y wlad y buoch yn byw neu weithio ynddi.

Eich Pensiwn y Wladwriaeth y DU os ydych wedi byw neu weithio dramor

Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth y DU yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol y DU. Rydych angen 10 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU i fod yn gymwys i Bensiwn newydd y Wladwriaeth.

Efallai y byddwch yn gallu defnyddio’r amser a dreiluwyd dramor i ychwanegu at y 10 mlynedd cymhwyso. Mae hyn yn fwy tebygol os ydych wedi byw neu weithio yn:

Enghraifft

Mae gennych 7 mlynedd cymhwyso o’r DU ar eich cofnod Yswiriant Gwladol pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Rydych wedi bod yn gweithio mewn gwlad AEE am 16 mlynedd ac wedi talu cyfraniadau i bensiwn y wladwriaeth y wlad honno.

Byddwch yn cwrdd â’r isafswm blynyddoedd cymhwyso i gael Pensiwn newydd y Wladwriaeth oherwydd yr amser y buoch yn gweithio dramor. Bydd eich swm Pensiwn y Wladwriaeth newydd yn seiliedig ar y 7 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol a wnaethoch yn y DU yn unig.

Rydych eisiau ymddeol tramor

Gallwch wneud cais am Bensiwn newydd y Wladwriaeth tramor yn y rhan fwyaf o wledydd.

Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn ond dim ond os ydych yn byw yn: