Cysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn

Neidio i gynnwys y canllaw

Rhoi gwybod am newidiadau i’ch cyfeiriad, manylion banc, neu amgylchiadau eraill

Os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu’r pensiwn dros 80, mae’n rhaid i chi roi gwybod os ydych yn:

  • symud i gyfeiriad newydd o fewn y DU (rhowch wybod ar ôl i chi symud)
  • symud neu’n bwriadu symud i wlad arall yn barhaol
  • symud i gartref gofal preswyl, hyd yn oed nad yw’n barhaol (rhowch wybod ar ôl i chi symud)
  • dechrau neu’n stopio cael budd-dal o’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
  • newid eich manylion banc
  • priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil
  • ysgaru neu’n diddymu eich partneriaeth sifil
  • weddw neu mae’ch partner sifil yn marw
  • mynd i’r carchar
  • cael eich cynnal yn nalfa gyfreithiol

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn, mae yna newidiadau ychwanegol y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdanynt

Os ydych yn byw dramor, cysylltwch â’r Canolfan Pensiynau Rhyngwladol yn lle.

Os ydych yn rhoi gwybod ar ran rhywun arall, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ‘ymholiad arall’.

Rhoi gwybod am eich newid dros y ffôn

Ffôn: 0800 731 0453
Ffôn testun: 0800 731 0456
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0469
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 731 0469
Ffôn testun Saesneg: 0800 731 0464
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

Rhoi gwybod am eich newid trwy’r post

The Pension Service
Post Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1AF