Hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post.

Os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, mae angen i chi wneud cais am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn lle hynny. Os ydych dros 80 oed, efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am y pensiwn dros 80.

Os ydych eisiau gwneud cais ar ran rhywun arall, mae’n rhaid i chi allu rheoli eu cais

Gwneud cais dros y ffôn neu drwy’r post

Gallwch wneud cais dros y ffôn os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y 4 mis nesaf.

Os ydych am wneud cais trwy’r post, ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn i gael ffurflen gais Pensiwn y Wladwriaeth wedi’i anfon atoch.

Rhif ffôn: 0800 731 7936
Ffôn testun: 0800 731 7013
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 7898
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 731 7898
Ffôn testun Saesneg: 0800 731 7339
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (heblaw gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

Cysylltwch â’r Ganolfan Bensiwn Rhyngwladol os ydych yn byw tramor.