Helpu rhywun gyda’i gais am fudd-dal

Neidio i gynnwys y canllaw

Cael cyngor a gwybodaeth am gais rhywun

Mae sut y gallwch gael cyngor a gwybodaeth yn dibynnu ar y budd-daliadau sy’n cael eu hawlio. Am:

Yr hyn y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ymholiadau eraill ar ei gyfer:

Gallwch ddarganfod wybodaeth benodol am fudd-dal rhywun arall, fel:

  • pa gam y mae’r cais wedi’i gyrraedd
  • sut a pham y mae penderfyniad wedi’i wneud am gais
  • sut y cyfrifwyd gwerth cais
  • pa gamau a gymerir yn y dyfodol ynghylch y cais
  • beth yw’r camau nesaf i’r person sydd wedi gwneud y cais

Gallwch hefyd roi gwybod i’r llinell gymorth am newidiadau i amgylchiadau byw’r person, er enghraifft os ydynt yn mynd i mewn i’r ysbyty. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ymchwilio unrhyw newidiadau cyn diweddaru cais.

Yr hyn na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar ei gyfer

Ni allwch gael gwybodaeth bersonol am y person sydd yn hawlio budd-daliadau, fel:

  • cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • manylion banc neu gymdeithas adeiladu
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif ffôn

Ni allwch ychwaith ddefnyddio’r gwasanaeth i reoli cais budd-dal rhywun, fel apelio yn erbyn penderfyniad ar ei ran neu ddod â’i gais i ben.

Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth

Gall unrhyw un sydd â chysylltiad gwirioneddol â’r person sy’n hawlio budd-daliadau ddefnyddio’r gwasanaeth ymholiadau eraill.

Mae hynny’n cynnwys os ydych yn ffonio:

  • ar ran aelod o’r teulu neu ffrind
  • fel rhan o’ch swydd, er enghraifft os ydych yn weithiwr cymdeithasol, nyrs neu feddyg neu os ydych yn gweithio i sefydliad cyngor neu hawliau lles

Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth

Mae pwy rydych yn ei ffonio yn dibynnu ar y budd-dal. Am:

Dywedwch eich bod yn edrych am ymholiad arall i gais budd-dal rhywun arall.

Bydd y sawl sy’n delio â’r alwad yn gwirio bod gennych gysylltiad gwirioneddol â’r person sy’n hawlio budd-daliadau. Gall hynny olygu gofyn cwestiynau am:

  • fanylion personol y person hwnnw
  • manylion personol cais budd-dal y person hwnnw
  • eich rhif ffôn neu’ch cyfeiriad e-bost, os ydych yn ffonio fel rhan o’ch swydd neu ar ran sefydliad.

Efallai y byddant hefyd yn cysylltu â’r person sy’n hawlio’r budd-daliadau er mwyn gwirio a ydynt yn hapus i chi ddefnyddio’r gwasanaeth.

Os ydych yn gallu profi eich cysylltiad go iawn

Bydd y sawl sy’n delio â’r alwad yn gallu eich helpu. Os ydych am ddefnyddio’r gwasanaeth eto ar alwad arall, efallai bydd angen i chi ailadrodd y gwiriadau.

Os na allwch brofi eich cysylltiad go iawn

Ni fyddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth. Gall y sawl sy’n delio â’r alwad awgrymu ffyrdd eraill y gallwch helpu’r person gyda’i gais.