Cael eich Pensiwn y Wladwriaeth

Byddwch angen:

  • dyddiad eich priodas, partneriaeth sifil neu ysgariad mwyaf diweddar
  • dyddiadau o amser a dreuliwyd yn byw neu weithio dramor
  • manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
  • y cod gwahoddiad o’r llythyr am gael eich Pensiwn y Wladwriaeth

Os nad yw eich llythyr gennych a byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y 3 mis nesaf, gallwch ofyn am god gwahoddiad i wneud cais ar-lein.

Dechrau nawr

Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Saesneg (English) hefyd.

Mae proses wahanol os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Gwneud cais dros y ffôn

Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y 4 mis nesaf, gallwch ffonio’r Gwasanaeth Pensiwn i wneud cais.

Gwneud cais trwy’r post

Mae angen i chi ffonio’r Gwasanaeth Pensiwn i gael ffurflen gais Pensiwn y Wladwriaeth wedi’i phostio atoch.

Anfonwch eich ffurflen wedi’i chwblhau i:

Pension Service 8
Post Handling Site B
Wolverhampton
WV98 1AF

Os ydych yn ymddeol tramor

Mae ffordd wahanol i wneud cais am eich pensiwn o dramor, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel.

Os ydych am barhau i weithio

Os nad ydych am wneud cais eto, gallwch oedi eich Pensiwn y Wladwriaeth.