Cofrestru tir neu eiddo gyda Chofrestrfa Tir EF

Neidio i gynnwys y canllaw

Cofrestru am y tro cyntaf

Rhaid i dir neu eiddo gael ei gofrestru am y tro cyntaf os yw’n ddigofrestredig pan fyddwch yn cymryd perchnogaeth ohono neu’n ei forgeisio.

Hyd yn oed os nad oes yn rhaid ichi gofrestru, mae cofrestru’n wirfoddol:

  • yn rhoi prawf o berchnogaeth ichi
  • yn helpu i warchod eich tir rhag twyll
  • yn ei gwneud yn haws i newid, gwerthu neu roi eich eiddo i rywun arall yn y dyfodol

Gallwch gofrestru eiddo eich hunan neu gael cyfreithiwr neu drawsgludwr i wneud hynny ichi.

Cofrestru tir ac eiddo am y tro cyntaf

  1. Chwiliwch y gofrestr i wneud yn siwr nad yw’ch eiddo’n gofrestredig eisoes. Rhaid ichi drosglwyddo perchnogaeth o eiddo cofrestredig.

  2. Gwnewch gais am chwiliad o’r Adran Pridiannau Tir i chwilio yn erbyn yr holl berchnogion blaenorol er 1925. Bydd yr Adran Pridiannau Tir yn anfon y canlyniadau atoch.

  3. Cwblhewch gais am gofrestriad cyntaf.

  4. Paratowch gynllun wrth raddfa yn dangos ble mae’r tir wedi’i amlinellu os nad yw wedi’i ddangos yn y gweithredoedd.

  5. Dewiswch y ffurflenni y mae eu hangen arnoch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a llenwch 2 gopi o’r ffurflen rhestr o ddogfennau.

  6. Dewiswch y ffi gofrestru gywir – mae hyn yn dibynnu ar werth eich eiddo.

  7. Anfonwch eich dogfennau, ffurflenni a’r ffi i Gofrestrfa Tir EF.

Os ydych wedi prynu’r eiddo

Dylech gynnwys yr un ffurflenni ag a ddefnyddir wrth gofrestru am y tro cyntaf a ffurflen ‘trosglwyddo teitl cofrestredig cyfan’.

Os ydych wedi etifeddu’r eiddo

Dylech gynnwys yr un ffurflenni ag a ddefnyddir wrth gofrestru am y tro cyntaf a chynnwys naill ai:

Cysylltwch â Chofrestrfa Tir EF os nad ydych yn siwr pa ffurflen y mae ei hangen arnoch.

Dogfennau eraill y gall fod eu hangen arnoch

Efallai y bydd angen ichi anfon y canlynol hefyd: