Cael gwybodaeth am eiddo a thir
Cael copi o’r gweithredoedd
Efallai y gallwch gael gwybodaeth gyfredol a blaenorol am eiddo cofrestredig, ee perchnogion blaenorol. Gall y gofrestr roi rhagor o fanylion am hawliau dros dir cyffiniol.
-
Llwytho i lawr gopi o’r gofrestr teitl – bydd angen hwn arnoch i gael rhif teitl yr eiddo ac i weld a oes copi o’r gweithredoedd gan Gofrestrfa Tir EF.
-
Llenwi’r ffurflen gais am weithredoedd.
Gallai’r gweithredoedd gynnwys sawl dogfen. Codir £7 ar gyfer pob dogfen.
Efallai na fydd unrhyw ganlyniadau i’ch chwiliad os nad oes copi o’r gweithredoedd gan Gofrestrfa Tir EF.
Anfonwch eich ffurflen wedi’i llenwi a’ch taliad i Gofrestrfa Tir EF.
HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB
Ni ellir defnyddio copïau o weithredoedd i brofi perchnogaeth, ee mewn achos llys. Dylech gael copïau swyddogol o’r gofrestr teitl yn lle hynny.
Os ydych yn fusnes
Cofrestrwch ar gyfer e-wasanaethau busnes os ydych yn fusnes sy’n gorfod rheoli chwiliadau lluosog a llwytho i lawr gopïau lluosog o ddogfennau.