Cofrestru tir neu eiddo gyda Chofrestrfa Tir EF

Neidio i gynnwys y canllaw

Pryd mae’n rhaid ichi gofrestru

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rhaid ichi gofrestru’r holl dir neu eiddo gyda Chofrestrfa Tir EF:

  • os ydych wedi’i brynu
  • os yw rhywun wedi’i roi ichi
  • os ydych wedi’i etifeddu
  • os ydych wedi’i dderbyn yn gyfnewid am eiddo neu dir arall
  • os ydych wedi morgeisio’r eiddo

Fel arfer nid oes yn rhaid ichi gofrestru tir neu eiddo prydlesol os oes 7 mlynedd neu lai ar y brydles pan fyddwch yn cymryd perchnogaeth ohono.

Rhaid ichi gofrestru eich tir gyda’r Gofrestr Tir Gwledig yn ogystal â Chofrestrfa Tir EF os ydych yn berchen ar dir amaethyddol.

Efallai na fydd eich eiddo’n gofrestredig os oeddech yn berchen arno cyn 1990 ac nad yw wedi ei forgeisio ers hynny. Gweld a yw’ch eiddo’n gofrestredig.

Rhaid ichi ddweud wrth Gofrestrfa Tir EF os ydych yn trosglwyddo perchnogaeth eich eiddo cofrestredig i rywun arall.

Pan fyddwch wedi cofrestru

Mae Cofrestrfa Tir EF yn cyhoeddi gwybodaeth ar-lein am y rhan fwyaf o eiddo cofrestredig, gan gynnwys:

  • enwau’r perchnogion
  • y pris a dalwyd am yr eiddo
  • cynllun o derfynau’r eiddo

Ni allwch ddewis peidio â chyhoeddi gwybodaeth am eich eiddo.

Os ydych yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Mae Cofrestrfa Tir EF yn delio â thir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr yn unig.

Yr Alban

Cofrestrwch eich tir neu’ch eiddo gyda Registers of Scotland.

Gogledd Iwerddon

Cofrestrwch eich tir neu’ch eiddo gyda Land and Property Services.