Trosolwg

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol er mwyn bod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth.

Fel arfer, gallwch ond dalu am fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol o’r 6 blwyddyn dreth ddiwethaf. Mae’r flwyddyn dreth yn dod i ben ar 5 Ebrill.

Er enghraifft, mae gennych hyd at 5 Ebrill 2030 i lenwi’r bylchau ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.

Gallwch hefyd ddewis trefnu taliad rheolaidd i lenwi bylchau yn y flwyddyn dreth bresennol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cyn i chi dalu

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol – gallai olygu nad oes rhaid i chi dalu.

Wedyn, gallwch wirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol a rhagolwg o’ch pensiwn i gael gwybod y canlynol:

  • a oes gennych unrhyw fylchau
  • a ydych yn gymwys i dalu cyfraniadau gwirfoddol
  • a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol
  • faint fydd y gost
  • a allwch dalu ar-lein

Ni fydd talu cyfraniadau gwirfoddol o reidrwydd yn cynyddu’ch Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i weld a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.

Talu ar-lein

Gallwch dalu ar-lein drwy gymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein.

Bydd angen i chi gael y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Talu nawr

Cadarnhad o’ch taliad

Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.

Bydd yn ymddangos yn eich cyfrif CThEF. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Gallwch wneud taliadau sy’n cyrraedd ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf:

Gallwch dalu cyn pen 3 diwrnod drwy ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Bacs) neu â siec drwy’r post.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Os bydd 5 Ebrill ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Daliadau Cyflymach).

Os ydych am wneud taliadau rheolaidd

Os ydych chi’n gwybod y bydd gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol yn y flwyddyn dreth bresennol, gallwch wneud taliadau rheolaidd i dalu am y diffyg.

Os ydych am dalu’n chwarterol cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Byddant yn anfon cais am daliad atoch bob mis Gorffennaf, Hydref, Ionawr ac Ebrill.

Os hoffech dalu’n fisol, dylech drefnu Debyd Uniongyrchol.