Cyfrif treth personol: mewngofnodi neu sefydlu
Defnyddiwch eich cyfrif treth personol i wirio’ch cofnodion a rheoli’ch manylion gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch wneud y canlynol:
- gwirio’ch amcangyfrif o Dreth Incwm a’ch cod treth
- llenwi, anfon a bwrw golwg dros Ffurflen Dreth bersonol
- hawlio ad-daliad treth
- gwirio’ch Budd-dal Plant
- gwirio’ch incwm o waith yn ystod y 5 mlynedd flaenorol
- gwirio faint o Dreth Incwm a dalwyd gennych yn ystod y 5 mlynedd flaenorol
- gwirio a rheoli’ch credydau treth
- gwirio’ch Pensiwn y Wladwriaeth
- gwirio a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ac a allwch dalu ar-lein
- olrhain ffurflenni treth rydych wedi’u cyflwyno ar-lein
- gwirio neu ddiweddaru’ch Lwfans Priodasol
- rhoi gwybod i CThEF am newid enw neu gyfeiriad
- gwirio neu ddiweddaru buddiannau a gewch o’r gwaith, er enghraifft, manylion car cwmni ac yswiriant meddygol
- dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol
- dod o hyd i’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
- gwirio’ch bil treth Asesiad Syml
Mae gwasanaeth gwahanol ar gyfer cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad neu ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus ar eiddo yn y DU, a’i thalu.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Cewch wybod pan rydych yn mewngofnodi a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.