Taliad Tanwydd Gaeaf
Edrychwch i weld os ydych angen gwneud cais
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.
Nid oes angen i chi wneud cais os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Credyd Pensiwn
- Lwfans Gweini
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Gofalwr
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Cymorthdal Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
- dyfarniad o’r Cynllun Pensiynau Rhyfel
- Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
- Budd-dal Analluogrwydd
- Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol
Os nad ydych yn cael unrhyw un o’r rhain, mae angen i chi wneud cais os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
- nid ydych wedi cael Taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen
- rydych wedi gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth ers eich Taliad Tanwydd Gaeaf diwethaf
Efallai y bydd angen i chi wneud cais os ydych yn byw dramor hyd yn oed os ydych yn cael un o’r budd-daliadau hyn.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf:
- trwy’r post - o 18 Medi 2023
- dros y ffôn - o 4 Hydref 2023
Mae ffordd wahanol i wneud cais os ydych yn byw dramor.
Y dyddiad cau i chi wneud cais ar gyfer gaeaf 2023 i 2024 yw 31 Mawrth 2024.
Gwneud cais trwy’r post
Llenwch Ffurflen gais Taliad Tanwydd Gaeaf i breswylwyr y DU a’i hafnon i’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf.
Anfonwch eich cais i’r cyfeiriad canlynol os ydych yn y DU.
Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LR
Gwneud cais dros y ffôn
Ffoniwch y Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf i wneud cais dros y ffôn.
Canolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf
Ffurflen ymholiad e-bost
Ffôn: 0800 731 0160
Ffôn testun: cysylltwch â Relay UK ar 18001 ac yna 0800 731 0464
Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Beth i’w baratoi cyn i chi ffonio
Cyn i chi ffonio, byddwch angen gwybod:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- manylion eich banc neu gymdeithas adeiladu
- y dyddiad gwnaethoch briodi neu d dod yn rhan o bartneriaeth sifil (os yw’n briodol)
Ni ellir gwneud taliadau i gyfrif Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) oni bai eich bod eisoes yn cael budd-daliadau eraill wedi’u talu i’r cyfrif.
Byddwch hefyd angen dweud os, yn ystod wythnos gymhwyso 18 a 24 Medi 2023, roeddech:
- yn yr ysbyty yn cael triniaeth am ddim i gleifion mewnol
- mewn cartref gofal preswyl neu ‘Ilford Park Resettlement Home’
- yn y carchar
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.