Trosolwg

Os cawsoch eich geni ar neu cyn 25 Medi 1957, gallech gael rhwng £250 a £600 i’ch helpu i dalu’ch biliau gwresogi. Gelwir hyn yn ‘Daliad Tanwydd Gaeaf’.

Mae’r swm byddwch yn ei gael yn cynnwys ‘Taliad Costau Byw i Bensiynwyr’. Mae hwn rhwng £150 a £300. Byddwch yn cael y swm ychwanegol hwn yn ystod gaeaf 2023 i 2024. Mae hwn yn ychwanegiad at unrhyw Daliad Costau Byw rydych yn ei gael gyda’ch budd-dal neu’ch credydau treth.

Mae’r canllaw hwn ar gael yn Saesneg (English) hefyd ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.

Os ydych yn gymwys, dylech fod wedi cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn dweud faint fyddwch yn ei gael.

Os nad ydych wedi cael llythyr ond rydych yn meddwl eich bod yn gymwys, gwiriwch a oes angen i chi wneud cais

Cafodd y rhan fwyaf o bobl gymwys eu talu ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr. Darganfyddwch beth i’w wneud os nad ydych wedi cael eich talu.

Help arall gyda biliau gwresogi

Gallech hefyd gael:

  • Taliad Tywydd Oer - os ydych yn cael rhai budd-daliadau a bod y tymheredd yn gostwng i radd sero celsius neu is am 7 diwrnod yn olynol
  • y Disgownt Cartref Cynnes - mae hwn yn ostyngiad o £150 ar eich biliau os ydych yn cael Credyd Pensiwn neu os ydych yn byw mewn cartref incwm isel
  • cymorth gan y Gronfa Cymorth i Gartrefi, os ydych yn gymwys o dan reolau eich cyngor lleol - edrychwch ar wefan eich cyngor lleol