Aseinio rhif cofrestru preifat i gerbyd

I aseinio rhif cofrestru preifat (personol) i gerbyd, mae angen un o’r canlynol arnoch:

Cymhwysedd

Ni allwch:

  • aseinio rhif sy’n dechrau gyda ‘Q’ neu ‘NIQ’

  • rhoi rhif preifat ar gerbyd sydd wedi’i gofrestru â phlât ‘Q’

  • defnyddio rhif preifat sy’n gwneud i gerbyd edrych yn fwy newydd nag ydyw - er enghraifft, rhif cofrestru ‘07’ ar gerbyd a gofrestrwyd yn 2003

Rhaid i’r cerbyd:

  • fod wedi’i gofrestru gyda DVLA yn y DU

  • gallu symud o dan ei bŵer ei hun

  • bod o fath sydd angen MOT neu dystysgrif prawf gerbyd nwyddau trwm (HGV)

  • bod ar gael i’w harchwilio - bydd DVLA yn cysylltu â chi os bydd angen iddynt archwilio eich cerbyd

  • wedi cael ei drethu neu wedi cael HOS ar waith yn barhaus am y 5 mlynedd diwethaf

  • fod wedi’i drethu ar hyn o bryd neu fod â HOS yn ei le - os yw wedi cael HOS ers mwy na 5 mlynedd, rhaid ei drethu a chael tystysgrif MOT

Os oes gennych gerbyd hanesyddol (clasurol) bydd angen tystysgrif MOT gyfredol arnoch hefyd, hyd yn oed os yw eich cerbyd fel arfer wedi’i eithrio rhag MOT.

Gwneud cais i aseinio rhif

Os yw’r cerbyd:

  • wedi’i gofrestru ichi - gwnewch gais ar-lein neu drwy’r post

  • yn gerbyd ail law rydych newydd ei brynu - arhoswch i DVLA anfon V5CW newydd yn eich enw atoch cyn ichi wneud cais ar-lein neu drwy’r post

  • yn newydd sbon - rhowch eich dogfen V750W neu V778W i’r deliwr a gofynnwch iddynt wneud cais

  • wedi’i gofrestru i rywun arall ac rydych am i’r rhif preifat gael ei drosglwyddo iddynt - gwnewch gais ar-lein neu drwy’r post

Mae’n rhad ac am ddim i wneud cais ar-lein neu drwy’r post. Mae angen y llyfr log cerbyd (V5CW) arnoch.

Os oes gennych rif preifat ar eich cerbyd yn barod, gwnewch gais i’w gymryd oddi ar y cerbyd yn gyntaf. Gallech golli’r hawl i ddefnyddio’r rhif os na wnewch hynny.

Gwneud cais ar-lein

Bydd y rhif yn cael ei aseinio ar unwaith os nad oes angen archwiliad ar eich cerbyd. Byddwch yn barod i roi platiau rhif newydd ar y cerbyd cyn gynted ag y byddwch wedi gwneud cais.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Mae’r gwasanaeth hwn ar agor rhwng 7am a 7pm. Mae hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gwneud cais drwy’r post

Anfonwch yr holl ddogfennau canlynol i DVLA:

Os ydych yn aseinio’r rhif i gerbyd rhywun arall, ychwanegwch nhw fel ‘enwebai’ - cwblhewch adran 2 o’r V750W neu V778W.

I drethu eich cerbyd ar yr un pryd, cynhwyswch bob un o’r canlynol:

Ar ôl ichi aseinio rhif preifat

Bydd y canlynol yn cael eu hanfon atoch:

  • llyfr log newydd (V5CW)

  • eich MOT gwreiddiol yn ôl (os gwnaethoch ei anfon i drethu’r cerbyd)

Rhaid ichi roi platiau rhif newydd ar y cerbyd cyn ichi ei yrru.

Gallwch gadw’r rhif cofrestru gwreiddiol a’r platiau - byddant yn cael eu hailaseinio i’r cerbyd pan fyddwch yn cymryd y rhif preifat oddi ar y cerbyd.

Rhaid ichi beidio â gwerthu na chael gwared ar gerbyd nes ichi gael y llyfr log newydd (V5CW).

Os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log

Fel arfer byddwch yn derbyn eich llyfr log ar ôl 4 wythnos.

Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log a bod 4 wythnos wedi mynd heibio ers ichi wneud cais.

Os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi hysbysu DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un arall.

Wrth bwy i ddweud am eich rhif cofrestru newydd

Rhaid ichi ddweud wrth eich cwmni yswiriant.

Diweddarwch eich rhif cofrestru ar gyfer unrhyw gyfrifon talu awtomatig sydd gennych, er enghraifft i dalu:

  • y Tâl Atal Tagfeydd

  • y Tâl Parth Allyriadau Isel

  • y Tâl Parth Allyriadau Isel Iawn

  • y Tâl Dart

  • taliadau am yrru mewn Parthau Aer Glân

Efallai y cewch dâl cosb os na fyddwch yn diweddaru eich manylion cofrestru ac yn mynd i mewn i un o’r parthau hyn.

Os oes gan eich cerbyd ardystiad cynllun Achredu Ôl-osod Cerbydau Glân, mae angen ichi roi eich rhif cofrestru newydd iddynt hwy hefyd.