Cael llyfr log cerbyd (V5CW)

Neidio i gynnwys y canllaw

Cael llyfr log (V5CW) dyblyg

Mae angen ichi gael llyfr log (V5CW) os yw’r un wreiddiol ar goll, wedi’i ddwyn, ei ddifetha neu ei ddinistrio gennych chi neu’ch cwmni yswiriant.

Gallwch gael V5CW ddyblyg ar-lein neu dros y ffôn os gall y manylion yn y V5CW aros yr un fath. Bydd y V5CW yn cael ei phostio i’r cyfeiriad sydd gan y DVLA ar gofnod y cerbyd.

Gallwch drethu eich cerbyd ar-lein ar ôl gwneud cais am V5CW ddyblyg.

Mae ffyrdd eraill o gael V5CW os oes angen newid unrhyw beth yn y V5CW. Er enghraifft, os:

  • yw’ch enw neu’ch cyfeiriad wedi newid
  • yw manylion y cerbyd wedi newid
  • rydych wedi prynu, gwerthu neu drosglwyddo cerbyd
  • na chawsoch V5CW gyda’ch cerbyd newydd

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gwneud cais ar-lein am V5CW ddyblyg

Rhaid ichi fod y ceidwad cofrestredig ar y V5CW i wneud cais ar-lein.

Byddwch yn derbyn eich V5CW o fewn 5 diwrnod gwaith fel arfer.

Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ac mae wedi bod yn 2 wythnos ers ichi wneud cais.

Os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi rhoi gwybod i DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un amnewid.

Pan na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os:

  • oes angen ichi newid unrhyw un o’ch manylion
  • nad yw’r cerbyd yn eich meddiant
  • rydych eisoes wedi anfon eich V5CW i DVLA er mwyn iddynt wneud newidiadau
  • yw’ch cerbyd wedi’i gofrestru fel rhan o gynllun fflyd DVLA
  • yw’ch cerbyd wedi’i gofrestru dramor, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel (Jersey a Guernsey), Ynys Manaw neu Iwerddon

Faint yw’r gost

Mae’r gwasanaeth fel arfer yn costio £25. Gallwch dalu drwy gerdyn debyd neu gredyd.

Ni allwch gael ad-daliad ar ôl ichi ddefnyddio’r gwasanaeth (er enghraifft os ydych yn dod o hyd i’ch V5CW yn ddiweddarach).

Gwneud cais ar-lein

Bydd arnoch angen:

Dechrau nawr

Gwneud cais am V5CW ddyblyg dros y ffôn

Gallwch wneud cais dros y ffôn os mai chi yw’r ceidwad cofrestredig ar y V5CW sydd wedi mynd ar goll neu wedi’i difetha.

Ni allwch wneud cais dros y ffôn os bydd unrhyw un o’ch manylion neu fanylion eich cerbyd wedi newid. Ni ddylai’r manylion fod yn wahanol i’r wybodaeth yn y V5CW sydd ar goll neu wedi’i difetha.

Bydd arnoch angen:

Cysylltwch â DVLA dros y ffôn i wneud cais.

Fel arfer byddwch yn derbyn eich V5CW ar ôl 4 wythnos os byddwch yn gwneud cais fel hyn. Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ac mae wedi bod yn 4 wythnos ers ichi wneud cais.

Os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi rhoi gwybod i DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un amnewid.