Rhoi gwybod am newidiadau sy’n effeithio ar eich Budd-dal Plant

Neidio i gynnwys y canllaw

Os bydd newid yn eich amgylchiadau neu os bydd angen i chi diweddaru’ch manylion

Dylech roi gwybod am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich Budd-dal Plant. Os na wnewch hynny, mae’n bosibl na chewch yr holl arian y mae gennych hawl iddo, neu y byddwch yn cael eich gordalu ac yn gorfod talu arian yn ôl.

Dim ond y person sy’n hawlio Budd-dal Plant all rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am newid mewn amgylchiadau.

Os ydych eisoes wedi rhoi gwybod am newid a’ch bod yn aros am ymateb, gwiriwch pryd y gallwch ddisgwyl ateb.

Rhowch wybod am newidiadau i amgylchiadau’ch teulu:

  • os byddwch yn symud cartref
  • os bydd eich statws mewnfudo’n newid
  • os byddwch yn colli’r hawl i breswylio yn y DU
  • os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog ac nad ydych yn gymwys i gael Budd-dal Plant mwyach
  • os byddwch yn dod â pherthynas i ben neu’n dechrau perthynas newydd (er enghraifft, byddwch yn symud i fyw gyda phartner newydd, neu’n priodi)
  • byddwch yn cael eich dedfrydu i’r carchar am fwy nag 8 wythnos

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid i’ch cyfeiriad, ac ni all CThEF gysylltu â chi, bydd eich taliadau’n dod i ben.

Os byddwch yn dechrau ennill dros £60,000

Os byddwch chi neu’ch partner yn ennill dros £60,000, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.

Mae’n dal i fod yn rhaid i chi roi gwybod am newidiadau, hyd yn oed os yw’ch Budd-dal Plant wedi dod i ben o achos y tâl treth Budd-dal Plant.

Os bydd eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu’n newid

Rhowch wybod i CThEF os bydd manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu’n newid drwy fewngofnodi i Borth y Llywodraeth. Bydd angen eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Byddwch yn gallu cofrestru ar gyfer Porth y Llywodraeth os nad ydych wedi ei ddefnyddio o’r blaen.

Gallwch hefyd roi gwybod i CThEF drwy ddefnyddio ap CThEF.

Os byddwch yn newid eich enw neu’ch rhywedd

Rhowch wybod i CThEF os byddwch yn newid eich enw neu os byddwch yn newid eich rhywedd.

Os byddwch yn dechrau gofalu am blentyn arall

Os byddwch yn cael babi, neu’n dechrau gofalu am blentyn, gallwch wneud hawliad newydd i gael Budd-dal Plant.

Rhowch wybod i CThEF os yw cyngor lleol neu asiantaeth yn eich talu i ofalu am blentyn (er enghraifft, maethu).

Os byddwch yn symud tramor, neu i Ogledd Iwerddon

Rhowch wybod am newidiadau i amgylchiadau’ch teulu:

  • os byddwch yn bwriadu mynd tramor am fwy nag 8 wythnos
  • os byddwch chi neu’ch partner yn bwriadu symud tramor am fwy na blwyddyn
  • os ydych yn was y Goron a byddwch yn gadael y DU am swydd dramor
  • os byddwch yn symud i Ogledd Iwerddon, neu oddi yno

Os bydd rhiant yn marw

Rhowch wybod i CThEF os bydd un rhiant yn marw, neu’r ddau ohonynt.

Dulliau eraill o roi gwybod am newidiadau

Gallwch hefyd ffonio neu ysgrifennu at CThEF.