Rhoi gwybod am newidiadau sy’n effeithio ar eich Budd-dal Plant

Neidio i gynnwys y canllaw

Os bydd amgylchiadau eich plentyn yn newid

Dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich Budd-dal Plant. Os na wnewch hynny, mae’n bosibl na chewch yr holl arian y mae gennych hawl iddo, neu y byddwch yn cael eich gordalu ac yn gorfod talu arian yn ôl.

Dim ond y person sy’n hawlio Budd-dal Plant all rhoi gwybod i CThEF am newid mewn amgylchiadau.

Os ydych eisoes wedi rhoi gwybod am newid a’ch bod yn aros am ymateb, gwiriwch pryd y gallwch ddisgwyl ateb.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Rhowch wybod i CThEF os bydd eich plentyn yn:

  • dechrau cael Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
  • newid ei enw 
  • priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil
  • symud i mewn gyda’u partner
  • mynd ar goll

Os bydd eich plentyn yn parhau ag addysg, neu’n gadael addysg

Mae Budd-dal Plant yn dod i ben ar 31 Awst ar neu ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 16 oed os yw’n gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy.

Rhowch wybod i CThEF os bydd eich plentyn yn parhau ag addysg neu hyfforddiant ar ôl troi’n 16 oed, neu’n gadael addysg neu hyfforddiant yn ddiweddarach (yn agor tudalen Saesneg).

Os bydd eich plentyn yn gadael gartref

Rhowch wybod i CThEF os bydd eich plentyn yn:

  • mynd i fyw i ffwrdd oddi wrthych am naill ai 8 wythnos yn olynol, neu am fwy na 56 diwrnod mewn cyfnod o 16 wythnos
  • mynd i fyw dramor am fwy na 12 wythnos
  • symud i Ogledd Iwerddon, neu oddi yno
  • mynd i’r carchar neu ddalfa ieuenctid am fwy nag 8 wythnos

Os bydd eich plentyn yn mynd i’r ysbyty neu i ofal

Rhowch wybod i CThEF os bydd eich plentyn yn mynd i ofal preswyl neu i lety preswyl am fwy nag 8 wythnos, neu i’r ysbyty am fwy na 12 wythnos.

Os bydd eich plentyn yn newid rhywedd

Fel arfer, caiff CThEF wybod yn awtomatig os bydd eich plentyn yn cael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd i newid rhywedd. Os nad yw’ch plentyn wedi newid rhywedd yn gyfreithiol, nid oes rhaid i chi roi gwybod i CThEF.

Os yw’ch plentyn yn marw

Rhowch wybod i CThEF os bydd eich plentyn yn marw.

Dulliau eraill o roi gwybod am newidiadau

Gallwch hefyd ffonio neu ysgrifennu at CThEF.