Pryd fyddwch yn cael eich talu

Mae Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth fel arfer yn cael ei dalu pob 4 wythnos i gyfrif o’ch dewis. Os ydych am newid y cyfrif, rhowch wybod i’r Gwasanaeth Pensiwn.

Mae’r diwrnod y telir eich pensiwn yn dibynnu ar eich rhif Yswiriant Gwladol.

2 ddigid olaf eich rhif Yswiriant Gwladol Y diwrnod y caiff eich Pensiwn y Wladwriaeth ei dalu
00 i 19 Dydd Llun
20 i 39 Dydd Mawrth
40 i 59 Dydd Mercher
60 i 79 Dydd Iau
80 i 99 Dydd Gwener

Mae yna reolau gwahanol os ydych yn byw dramor.

Eich taliad cyntaf

Pan fyddwch yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig (deferred) gofynnir i chi pryd rydych am iddo ddechrau.

Byddwch yn cael eich taliad cyntaf ar ddiwedd yr wythnos lawn gyntaf rydych am ddechrau cael eich pensiwn.

Os ydych wedi cael eich talu gormod

Efallai bydd angen i chi ad-dalu’r arian os:

  • na wnaethoch roi gwybod am newid yn syth
  • rydych wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • cawsoch eich gordalu ar ddamwain

Darganfyddwch sut i ad-dalu gordaliad