Newid dosbarth treth eich cerbyd

Neidio i gynnwys y canllaw

Y dreth ar fin dod i ben neu mae pwrpas neu ddyluniad y cerbyd wedi newid

Fel arfer gallwch newid dosbarth treth eich cerbyd mewn Swyddfa’r Post, ond mewn rhai achosion efallai y bydd angen ichi wneud cais drwy’r post.

Pan fyddwch yn gallu newid dosbarth treth mewn Swyddfa’r Post

Gallwch newid dosbarth treth eich cerbyd mewn Swyddfa’r Post sy’n delio â threth cerbyd os:

  • yw’r dreth cerbyd ar fin dod i ben (rydych wedi cael nodyn atgoffa neu lythyr rhybudd ‘cyfle olaf’)
  • ydych chi’n newid p’un ai bod cerbyd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd neu beidio, er enghraifft, os yw’n cael ei ddefnyddio gan berson anabl

Pan fydd angen ichi newid dosbarth treth drwy’r post

Bydd angen ichi wneud cais drwy’r post i newid dosbarth treth os yw unrhyw un o’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi newid am beth y defnyddir y cerbyd, er enghraifft wedi dechrau defnyddio bws mini am elw
  • rydych wedi newid math o gorff y cerbyd, er enghraifft trawsnewid car i gerbyd nwyddau ysgafn
  • rydych wedi newid strwythur y cerbyd, er enghraifft trawsnewid car gyda phedair olwyn i gar gyda thair olwyn

Os ydych yn gymwys i gael gostyngiad treth cerbyd oherwydd eich bod yn anabl, mae ffordd wahanol i wneud cais drwy’r post.

Y dogfennau sydd eu hangen arnoch

Cymerwch y rhain i Swyddfa’r Post neu eu postio i DVLA:

  • y dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) yn eich enw, os oes gennych un
  • eich llythyr atgoffa treth cerbyd (V11W) os oes gennych un
  • prawf o MOT gyfredol (os oes angen un ar eich cerbyd) - er enghraifft, copi o hanes MOT eich cerbyd neu’ch tystysgrif MOT, os oes gennych un
  • prawf os yw’ch cerbyd wedi’i eithrio rhag MOT (V112W)
  • prawf o unrhyw gymhwysedd ar gyfer eithriad anabledd
  • taliad ar gyfer treth cerbyd (os oes rhaid ichi dalu am eich dosbarth treth newydd)

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, bydd hefyd arnoch angen:

  • tystysgrif MOT sy’n ddilys pan fydd y dreth yn dechrau
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn sicrwydd

Os ydych yn gyrru lori neu fws, mae angen ichi hefyd gymryd neu bostio tystysgrif prawf blynyddol ddiweddaraf y cerbyd neu’r ffurflen sy’n profi ei fod wedi’i eithrio (V112G).

Os ydych yn postio dogfennau, bydd angen ichi bostio’r rhai gwreiddiol.

Os nad oes gennych dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)

Bydd angen ichi gymryd y canlynol neu eu postio ynghyd â’r dogfennau eraill:

  • cais wedi’i gwblhau am dystysgrif gofrestru newydd - naill ai lawrlwythwch ffurflen V62W neu ewch i gael un o Swyddfa’r Post
  • eich slip ‘ceidwad newydd’, os ydych newydd brynu’r cerbyd

Mae tystysgrif gofrestru newydd am ddim os oes gennych slip ‘ceidwad newydd’. Fel arall y gost yw £25.

Os ydych yn gwneud cais drwy’r post ac mae angen ichi dalu’r £25, dylech gynnwys siec neu archeb bost yn daladwy i ‘DVLA, Abertawe’.

Ble i anfon ceisiadau drwy’r post

Anfonwch eich cais drwy’r post i:

DVLA
Abertawe
SA99 1BF

Beth sy’n digwydd nesaf

  1. Byddwch yn cael cadarnhad gan DVLA bod y newid wedi cael ei wneud.

  2. Bydd DVLA yn anfon V5CW sydd wedi’i diweddaru atoch.

  3. Bydd DVLA yn anfon ad-daliad atoch os bydd un yn ddyledus ichi.

Gallwch barhau i ddefnyddio’ch cerbyd tra bod eich cais yn cael ei brosesu.