Cerbydau a thrafnidiaeth

Bydd angen i chi gwrdd â’r rhwymedigaethau cyfreithiol i yrwyr cyn y gallwch chi yrru.

Cynllun parcio Bathodyn Glas

Mae’r Cynllun parcio Bathodyn Glas yn darparu ystod o fanteision parcio i bobl anabl ag anawsterau cerdded difrifol sy’n teithio naill ai fel gyrwyr neu fel teithwyr.

Eithriad treth cerbydau

Cymhwysedd

Gallwch wneud cais am eithriad rhag talu treth cerbyd os ydych yn cael y canlynol:

Rhaid i’r cerbyd fod wedi’i gofrestru yn enw’r person anabl neu enw’r gyrrwr enwebedig.

Rhaid ei ddefnyddio dim ond ar gyfer anghenion personol yr unigolyn anabl. Ni all y gyrrwr enwebedig ei ddefnyddio ar gyfer ei ddefnydd personol ei hun.

Gallwch ddefnyddio eich eithriad ar un cerbyd ar y tro yn unig. Os oes gennych fwy nag un cerbyd, bydd angen ichi ddewis pa un fydd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd.

Sut i wneud cais

Gallwch hawlio’r eithriad pan fyddwch yn gwneud cais am dreth cerbyd.

Os ydych yn hawlio am gerbyd am y tro cyntaf, mae’n rhaid i chi wneud cais mewn swyddfa post. Rhaid i chi wneud hyn bob tro y byddwch yn newid eich cerbyd.

Gostyngiad treth cerbyd

Cymhwysedd

Gallwch gael gostyngiad o 50% yn y dreth cerbyd os ydych yn cael y:

Dylai’r cerbyd fod wedi’i gofrestru yn enw’r person anabl neu yn enw ei yrrwr enwebedig.

Ni allwch gael gostyngiad ar gyfer cael y DLA cyfradd elfen is symudedd.

Sut i wneud cais

Rhaid i chi gynnwys y canlynol gyda’ch cais:

  • llythyr neu ddatganiad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n dangos eich cyfradd PIP a’r dyddiadau rydych yn ei gael - os ydych yn cael PIP
  • llythyr penderfyniad ADP gan Nawdd Cymdeithasol yr Alban sy’n dangos cyfradd eich elfen symudedd a’r dyddiadau rydych yn ei chael - os ydych yn cael ADP
  • llyfr log y cerbyd (V5CW)
  • ffurflen V10W
  • prawf o MOT gyfredol, os oes angen un arnoch - er enghraifft, copi o hanes MOT eich cerbyd neu’ch tystysgrif MOT, os oes gennych un
  • tystysgrif prawf cerbyd nwyddau (GVT) wreiddiol, os oes angen un arnoch
  • siec neu orchymyn daladwy (wedi’i wneud i ‘DVLA, Abertawe’) ar gyfer 50% o’r cyfradd lawn o dreth car ar gyfer y cerbyd
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn diogelu (os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon)

Peidiwch ag anfon eich asesiad PIP nac unrhyw wybodaeth feddygol arall gyda’ch cais.

Os ydych chi newydd brynu’r cerbyd ac nad ydych wedi’i gofrestru yn eich enw eto, bydd angen i chi lawrlwytho a chwblhau ffurflen V62 ac yn cynnwys ychwanegiad perchennog newydd V5C/2 gyda’ch cais.

Anfonwch y dogfennau i:

DVLA
Abertawe
SA99 1DZ

Os nad yw’r cerbyd wedi’i gofrestru i chi neu’r gyrrwr enwebedig

Pan fyddwch yn gwneud eich cais bydd angen i chi gynnwys llythyr wedi’i lofnodi gan geidwad cofrestredig y cerbyd. Rhaid i hyn ddweud:

  • sut maen nhw’n eich adnabod
  • sut y bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft codi’ch presgripsiwn neu siopa

Y Cynllun Motability

Gall y Cynllun Motability eich helpu chi i brydlesu car, cadair olwyn neu sgwter. Bydd angen i chi fod yn cael un o’r canlynol:

  • cyfradd uwch elfen symudedd Lwfans Byw i’r Anabl
  • cyfradd uwch elfen symudedd Taliad Anabledd Plentyn
  • Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • cyfradd uwch elfen symudedd PIP
  • elfen symudedd uwch y Taliad Anabledd Oedolion

Rhyddhad TAW ar gyfer cerbydau

Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu TAW ar gael cerbyd wedi’i addasu i’ch cyflwr, neu ar brydles cerbyd Motability - gelwir hyn yn rhyddhad TAW.

Cludiant cymunedol a chyhoeddus

Efallai bod eich cyngor lleol yn gweithredu cynllun “dial-a-ride” neu dacsi , er enghraifft, gan ddefnyddio talebau neu docynnau. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael tocyn bws, Tocyn Trên Person Anabl neu’r ddau.