Cymhwyster

Fel rhan o Mynediad at Waith, fe allwch fod yn gymwys ar gyfer:

  • grant i helpu dalu am gefnogaeth ymarferol â’ch gwaith
  • cefnogaeth gyda rheoli eich iechyd meddwl yn y gwaith

Ar gyfer y mathau hyn o gefnogaeth, rhaid i chi:

  • fod â chyflwr iechyd neu anabledd corfforol neu iechyd meddwl sy’n golygu eich bod angen cefnogaeth i wneud eich swydd neu gael i ac o’r gwaith
  • fod yn 16 oed neu drosodd
  • fod mewn gwaith cyflogedig (neu fod ar fin cychwyn neu ddychwelyd i waith cyflogedig yn y 12 wythnos nesaf)
  • byw a gweithio (neu ar fin cychwyn neu ddychwelyd i waith) yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban – mae system wahanol yng Ngogledd Iwerddon

Ni allwch gael Mynediad at Waith os ydych yn byw yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.

Eich anabledd, salwch neu gyflwr iechyd

Mae’n rhaid i chi fod ag anabledd, salwch neu gyflwr iechyd sy’n golygu eich bod angen cefnogaeth i wneud eich swydd.

Gall hyn gynnwys, er enghraifft:

  • anabledd corfforol, er enghraifft os ydych yn drwm eich clyw neu’n defnyddio cadair olwyn
  • anhawster dysgu neu gyflwr cysylltiedig, er enghraifft os oes gennych Syndrom Down’s
  • cyflwr datblygiadol, fel anhwylder sbectrwm awtistiaeth
  • cael ADHD neu dyslecsia
  • cyflwr megis diabetes neu epilepsy
  • cyflwr dros dro, fel coes wedi torri
  • cyflwr iechyd meddwl, er enghraifft pryder neu iselder

Nid oes rhaid eich bod wedi cael diagnosis i wneud cais.

Eich gwaith

Mae angen i chi gael swydd â thâl (neu fod ar fin dechrau neu ddychwelyd i un).

Gallai swydd â thâl fod yn llawn amser neu’n rhan amser a chynnwys:

  • cyflogaeth
  • hunangyflogaeth
  • prentisiaeth
  • treial gwaith neu brofiad gwaith
  • interniaeth
  • swydd breswyl

Ni allwch gael cefnogaeth Mynediad at Waith ar gyfer gwaith gwirfoddol.

Gallwch barhau i wneud cais am Fynediad at Waith os ydych chi’n gweithio gartref weithiau neu drwy’r amser.

Eich incwm a budd-daliadau

Gallwch gael cefnogaeth gan Mynediad at Waith:

  • beth bynnyg rydych yn ennill neu gyda mewn cynilion
  • yr un amser â’r rhan fwyaf o fudd-daliadau, cyn belled eich bod yn gweithio mwy nag 1 awr yr wythnos

Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Fe allwch gael Mynediad at Waith a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yr un pryd os ydych yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos. Mae yna reolau am weithia tra’n hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA). Gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith am gyngor a chefnogaeth.

Os ydych yn was sifil

Bydd eich cyflogwr yn darparu cymorth yn lle Mynediad at Waith. Cysylltwch â’ch cyflogwr er mwyn iddynt allu asesu a threfnu’r cymorth sydd ei angen arnoch.

Cymorth iechyd meddwl

Gallwch gael Mynediad at Waith ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl o hyd drwy wneud cais am gymorth gan Able Futures neu Maximus. Byddant yn cysylltu â Mynediad at Waith ar eich rhan. Ni fydd angen i chi ddweud wrth eich cyflogwr.

Cael cyngor ar eich cymhwysedd

Os ydych yn ansicr os ydych yn gymwys, ffoniwch linell gymorth Mynediad at Waith.

Llinell gymorth Mynediad at Waith

Ffôn: 0800 121 7479
Ffôn Testun: 0800 121 7579
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 7479
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfod am gostau galwadau

Os yw galwadau ffôn yn anodd i chi (er enghraifft, oherwydd eich bod yn fyddar neu drwm eich clyw), fe allwch ofyn i holl gyfathrebu fod drwy gyfrwng e-bost yn lle.