Addasiadau rhesymol i weithwyr ag anableddau neu gyflyrau iechyd

Rhaid i gyflogwyr wneud addasiadau rhesymol i sicrhau nad yw gweithwyr ag anableddau, neu gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol, dan anfantais sylweddol wrth wneud eu gwaith.

Mae hyn yn berthnasol i bob gweithiwr, gan gynnwys hyfforddeion, prentisiaid, gweithwyr contract a phartneriaid busnes.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae addasiadau rhesymol yn cynnwys:

  • newid y broses recriwtio fel y gellir ystyried ymgeisydd am swydd
  • gwneud pethau mewn ffordd arall, fel caniatau i rywun sydd ag anhwylder pryder cymdeithasol gael ei ddesg ei hun yn hytrach na symud o ddesg i ddesg
  • gwneud newidiadau i’r gweithle, fel gosod ramp ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn neu larwm tân clyweledol i berson byddar
  • gadael i berson anabl i weithio rhywle arall, fel ar y llawr gwaelod ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn
  • newid eu cyfarpar, er enghraifft, gan ddarparu bysellfwrdd arbennig os oes ganddynt arthritis
  • caniatau i weithwyr sy’n dod yn anabl ddychwelyd i’r gwaith yn raddol, gan gynnwys oriau hyblyg neu weithio rhan amser
  • cynnig cyfleoedd hyfforddi i weithwyr, cyfleusterau hamdden a lluniaeth

Cael help a chyngor

Gallwch gael cyngor ar addasiadau rhesymol gan yr Ymgynghorydd Cyflogaeth Anabledd (DEA) yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol, neu’r Gwasanaeth Cyflogaeth Anabledd os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon.

Gallwch wneud cais am Fynediad at Waith os ydych angen help ychwanegol.

Mae mwy o fanylion am rwymedigaethau cyflogwyr a sut i’w diwallu ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.