Lawrlwytho Offer TWE Sylfaenol CThEF

Mae Offer TWE Sylfaenol yn feddalwedd gyflogres sy’n rhad ac am ddim gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) ar gyfer busnesau sydd â llai na 10 cyflogai.

Mae’r arweiniad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Yr hyn y mae’n ei wneud

Mae’r feddalwedd yn eich galluogi i weithredu’r rhan fwyaf o dasgau’r gyflogres, gan gynnwys cyfrifo’r dreth a’r Yswiriant Gwladol ar gyfer eich cyflogeion ac anfon yr wybodaeth hon at CThEF.

Os oes gennych feddalwedd gyflogres na all wneud rhai tasgau, gallwch ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol ochr yn ochr â hi er mwyn gwneud y canlynol:

  • gwirio Rhif Yswiriant Gwladol cyflogai newydd (NVR)

  • anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS)

  • anfon Diweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) - ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 a chynharach

Mae gan Offer TWE Sylfaenol rai cyfyngiadau. Nid yw wedi’i gynllunio ar gyfer asiantau na llyfrifwyr. Mae meddalwedd gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) arall ar gael.

Cyn i chi ddechrau

Mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda CThEF fel cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg) a bod â’r gallu i fewngofnodi ar gyfer TWE Ar-lein cyn y gallwch ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol.

Defnyddiwch ganllaw CThEF i lawrlwytho a gosod y feddalwedd os oes angen help arnoch wrth osod y feddalwedd.

Diweddaru’r feddalwedd

Bydd y fersiwn ddiweddaraf o Offer TWE Sylfaenol yn gwirio am ddiweddariadau yn awtomatig, fel arfer pan fydd y flwyddyn dreth yn newid neu pan ddaw rheolau newydd i rym.

Y fersiwn ddiweddaraf yw 24.1.24086.542. Caiff rhif y fersiwn ei ddangos yn y gornel chwith ar waelod yr offeryn.

Peidiwch â dadosod y fersiwn o’r feddalwedd yr ydych wedi bod yn ei defnyddio, neu byddwch yn colli data’r gyflogres.

Lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf o Offer TWE Sylfaenol

Bydd y feddalwedd yn gweithio gyda’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron newydd a’r porwyr mwyaf diweddar.

Mae’r arweiniad ar ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol yn esbonio sut i ddefnyddio’r feddalwedd i ddechrau anfon gwybodaeth am y gyflogres i CThEF.

Systemau gweithredu sy’n cael eu cynnal

Mae’r systemau gweithredu canlynol yn cael eu cynnal:

  • Windows 10 a 11 

  • macOS fersiwn 13 ‘Ventura’ ac 14 ‘Sonoma’

  • Ubuntu Linux fersiwn 20.04 LTS a 23.10

Dim ond systemau gweithredu sy’n cydweddu â fersiynau 64-bit Intel/AMD sy’n cael eu cynnal. Mae MacOS hefyd wedi’i gynnal ar proseswyr Apple Silicon (M1).

Porwyr sy’n cael eu cynnal

Gallwch ddefnyddio’r porwyr canlynol os oes angen meddalwedd gynorthwyol arnoch:

  • Microsoft Edge (Windows yn unig)

  • Google Chrome

  • Mozilla Firefox

  • Apple Safari (macOS yn unig)

Anghenion eraill

Mae angen cysylltiad gweithredol i’r rhyngrwyd arnoch ar gyfer y canlynol:

  • cyflwyno gwybodaeth am y gyflogres ar-lein

  • diweddariadau awtomatig

  • nodweddion e-bost

  • cysylltiadau i’r we

Bydd angen Adobe Reader neu feddalwedd cyfatebol cydnaws i allu agor ffurflenni argraffadwy.

Defnyddio gyda meddalwedd gyflogres arall

Gallwch lawrlwytho a defnyddio Offer TWE Sylfaenol ar gyfer tasgau penodol os na all eich meddalwedd gyflogres eu cwblhau.