Defnyddio TWE Ar-lein

Fel cyflogwr, mae angen i chi ddefnyddio gwasanaeth TWE ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) i wneud y canlynol:

  • gwirio’r hyn sydd arnoch i CThEF
  • talu’ch bil
  • bwrw golwg dros hanes eich taliadau
  • cael mynediad at godau treth a hysbysiadau ynghylch eich cyflogeion
  • apelio yn erbyn cosb
  • cael rhybuddion gan CThEF pan fyddwch yn anfon adroddiad (yn Saesneg) neu’n talu (yn Saesneg) yn hwyr, neu pan na fyddwch yn anfon y nifer disgwyliedig o adroddiadau yn ystod y mis
  • anfon datganiadau treuliau a buddiannau, megis P46 (car), P11D a P11D(b)

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).

Mewngofnodi

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cyn i chi ddechrau arni

Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn cael manylion mewngofnodi pan fyddant yn cofrestru fel cyflogwr (yn Saesneg) ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi gan i chi gofrestru mewn dull gwahanol bydd angen i chi ymrestru ar wahân ar gyfer TWE Ar-lein.

Codau treth a hysbysiadau

Mae CThEF yn anfon gwybodaeth ynghylch eich cyflogeion atoch drwy ddefnyddio TWE Ar-lein. Gallwch fewngofnodi i fwrw golwg dros y canlynol:

Gallwch gyrchu’r rhain drwy ddefnyddio rhai mathau o feddalwedd cyflogres, neu drwy ddefnyddio’r Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE.