Gwirio gwybodaeth trwydded yrru rhywun

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wirio gwybodaeth trwydded yrru rhywun, er enghraifft y cerbydau y gallant eu gyrru neu unrhyw bwyntiau cosb neu waharddiadau.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Gwirio trwydded yrru rhywun ar-lein

Mae arnoch angen:

  • yr 8 nod diwethaf o’i rif trwydded yrru
  • cod gwirio o’r gyrrwr

Mae’n rhaid ichi ddefnyddio’r cod o fewn 21 diwrnod. Gallwch ddefnyddio’r cod unwaith yn unig - mae’n rhaid ichi gael cod arall i wneud gwiriad arall.

Defnyddiwch wasanaeth gwahanol os ydych yn dymuno gweld eich cofnod gyrru eich hun neu greu cod gwirio.

Dechrau nawr

Cynnwys

Mae’n rhaid bod gennych y wybodaeth gywir o’r gyrrwr i wneud gwiriad.

Mae’n drosedd i gael gwybodaeth bersonol rhywun arall heb ei ganiatâd.

Cymorth wrth ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Gallwch ffonio DVLA am gymorth os oes gennych y canlynol i gyd:

  • caniatâd y person i wneud y gwiriad
  • cod gwirio wrth y person yr ydych am wirio
  • yr 8 nod diwethaf o’i rif trwydded yrru

DVLA - am gymorth i ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein
Rhif ffôn: 0300 083 0013
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7pm
Dydd Sadwrn, 8am i 2pm
Cael gwybod mwy am gost galwadau

Gwneud gwiriad dros y ffôn gan ddefnyddio’r rhif cyfradd premiwm

Gallwch wneud gwiriad dros y ffôn os nad oes gennych god gwirio i ddefnyddio gyda’r gwasanaeth ar-lein.

Gofynnwch i’r gyrrwr yr ydych yn gwneud y gwiriad arno i ffonio’r DVLA i roi ei ganiatâd ar gyfer y gwiriad.

DVLA - ar gyfer y gyrrwr i roi ei ganiatâd
Rhif ffôn: 0300 790 6801
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7pm
Dydd Sadwrn, 8am i 2pm
Cael gwybod mwy am gost galwadau

Gallwch wedyn ffonio’r DVLA i wirio manylion y gyrrwr ar ôl iddo roi ei ganiatâd.

DVLA - ar gyfer y person sy’n gwneud y gwiriad
Rhif ffôn: 0906 139 3837 (mae galwadau yn costio 51c y munud)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7pm
Dydd Sadwrn, 8am i 2pm

Drwy’r post

Mae angen ichi a’r gyrrwr lenwi ffurflen D888/1 i wneud y gwiriad.

Anfonwch y ffurflen ynghyd â siec neu archeb bost am £5 i ‘DVLA, Abertawe’ i:

Ymholiadau Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR)
DVLA
Abertawe
SA99 1BX