Gweld neu rannu eich gwybodaeth trwydded yrru

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i:

  • weld eich cofnod gyrru, er enghraifft y cerbydau y gallwch eu gyrru
  • gwirio eich pwyntiau cosb neu waharddiadau
  • creu ‘cod gwirio’ trwydded i rannu eich cofnod gyrru gyda rhywun, er enghraifft cwmni llogi car

Bydd y cod gwirio yn ddilys am 21 diwrnod.

Bydd arnoch angen:

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cynnwys

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn dim ond os cyhoeddwyd eich trwydded yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

Mae’n drosedd i gael gwybodaeth bersonol rhywun arall heb ei ganiatâd.

Gwneud cais dros y ffôn

0300 083 0013
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 7pm
Dydd Sadwrn, 8am i 2pm
Cael gwybod mwy am gost galwadau

Gwneud cais drwy e-bost

Ni allwch wneud cais am god gwirio drwy e-bost.

Llenwch y ‘ffurflen gwneud cais am fynediad at ddata gan y testun (SAR) i DVLA’.

Os agorwch y ffurflen gan ddefnyddio Adobe, gallwch ddefnyddio’r opsiwn ‘cyflwyno cais’ i atodi’r ffurflen i e-bost.

Os agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe, cadwch y ffurflen a’i hanfon drwy e-bost i subjectaccess.requests@dvla.gov.uk

Rhowch y canlynol yn eich e-bost:

  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad
  • eich rhif trwydded yrru (neu eich dyddiad geni os nad ydych yn gwybod eich rhif gyrrwr)

Gwneud cais drwy’r post

Ni allwch wneud cais am god gwirio drwy’r post.

Argraffwch a llenwch y ‘ffurflen gwneud cais am fynediad at ddata gan y testun (SAR) i DVLA’. Anfonwch hi i DVLA.

Ymholiadau Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR)
DVLA,
Abertawe,
SA99 1BX