Beth i'w ddisgwyl mewn Llys neu Dribiwnlys
Gwybodaeth am beth ddylech ddod gyda chi i wrandawiad llys neu dribiwnlys, y cymorth sydd ar gael a beth fydd yn digwydd ar y diwrnod.
Cyn eich gwrandawiad
Beth ddylech ddod gyda chi
Os ydych chi’n dod i lys neu dribiwnlys ar gyfer gwrandawiad, dewch â’r canlynol gyda chi:
- eich llythyr gwrandawiad gyda rhif eich achos – mae rhif yr achos yn eich helpu i ddod o hyd i ble mae angen i chi fynd yn yr adeilad
- unrhyw bapurau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gwrandawiad
- gorchudd wyneb, os ydych yn dewis gwisgo un
- hylif diheintio dwylo os oes gennych beth
- bwyd a diod, gan gynnwys dŵr (nid oes lluniaeth ar gael ym mhob adeilad)
Ni allwch ddod ag arfau, gwydr na hylifau heblaw am ddiodydd di-alcohol neu hylif diheintio dwylo i mewn i’r adeilad.
Ni allwch ddod ag e-feiciau nac e-sgwteri i mewn i adeiladau’r llys. Nid oes gennym gyfleusterau storio ar gyfer y cerbydau hyn yn y llys, felly dylech ystyried hyn wrth gynllunio eich trefniadau teithio.
Beth i’w wisgo
Ar wahân i orchudd wyneb, ni chaniateir ichi wisgo unrhyw beth ar eich pen mewn adeilad llys neu dribiwnlys oni bai ei fod am resymau crefyddol.
Nid oes unrhyw reolau eraill am yr hyn y dylech ei wisgo, ond gwisgwch yn smart os gallwch wneud hynny.
Pryd y dylech gyrraedd
Mae angen i chi gyrraedd 30 munud cyn yr amser a nodir yn eich llythyr gwrandawiad. Peidiwch â chyrraedd yn gynharach oherwydd efallai y cewch eich troi i ffwrdd, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur.
Yr amser a roddir yn eich llythyr yw pan fydd achosion y diwrnod yn dechrau. Efallai na fydd eich achos chi yn digwydd gyntaf, felly byddwch yn barod i aros.
Gwnewch unrhyw drefniadau sydd eu hangen arnoch, er enghraifft gofal plant neu gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith.
Eich diogelwch
Gwyddom y gall dod i lys neu dribiwnlys fod yn feichus neu’n frawychus.
Mae gennym swyddogion diogelwch ym mhob un o’n hadeiladau.
Dylech gysylltu â’r llys neu’r tribiwnlys ar eich llythyr os oes gennych unrhyw bryderon am eich diogelwch ar y diwrnod.
Mae yna bethau eraill y gallwn eu gwneud i’ch helpu i deimlo’n ddiogel, er enghraifft:
-
eich gosod mewn rhan wahanol o’r adeilad i eraill yn eich achos wrth i chi aros
-
darparu sgrin yn yr ystafell wrandawiadau fel na all y parti arall eich gweld
Pwy fydd yn eich gwrandawiad
Darganfyddwch pwy arall a allai fod yn eich gwrandawiad a beth fydd eu rolau.
Y cymorth sydd ar gael
Pwy all ddod efo chi
Os oes angen cymorth arnoch, dewch ag un unigolyn efo chi yn unig – fel ffrind neu aelod o’r teulu.
Os ydych yn dod gyda mwy nag un unigolyn, efallai na fyddant yn cael mynd i mewn.
Nid oes cyfleusterau gofal plant ac ni all staff ofalu am eich plant tra byddwch yn yr ystafell wrandawiadau.
Gallwch fwydo ar y fron a rhyddhau llaeth o’r fron ym mhob un o’n hadeiladau llys neu dribiwnlys.
Os oes gennych anabledd
Gallwch gael cymorth yn y llys neu’r tribiwnlys ac yn ystod eich achos. Weithiau gelwir hyn yn ‘addasiad rhesymol’.
Cyn dyddiad eich gwrandawiad, cysylltwch â’r llys neu’r tribiwnlys a nodir ar eich llythyr i roi gwybod iddynt beth sydd ei angen arnoch.
Er enghraifft, gallai hyn fod yn:
- canllawiau mewn fformatau amgen, gan gynnwys sain a hawdd ei ddarllen
- Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- ffurflenni mewn print bras
- offer gwella clyw
- rampiau
- seibiannau yn ystod gwrandawiad i helpu gyda chanolbwyntio
- toiledau hygyrch
Rydym wedi ymuno â’r rhwydwaith blodyn haul Anableddau Cudd i helpu pobl sy’n ymweld ag adeiladau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd a allai fod angen cymorth ychwanegol. Mae laniardiau blodau haul ar gael ym mhob adeilad.
Drwy wisgo’r laniard blodau haul, rydych chi’n dangos y gallai fod angen mwy o help neu fwy o amser arnoch chi. Mae staff y llys wedi cael eu hyfforddi i gydnabod laniard blodyn haul ac i gynnig cymorth, gan ddarparu addasiadau rhesymol lle bo angen.
Diwrnod eich Gwrandawiad
Pan ewch i mewn i’r adeilad
Pan fyddwch yn mynd i mewn i’r llys neu’r tribiwnlys, bydd eich bagiau a’ch pocedi yn cael eu gwirio fel sy’n digwydd mewn maes awyr. Gall hyn gynnwys:
- rhoi eich bag i’r swyddogion diogelwch er mwyn iddo gael ei wirio
- gwagio’ch pocedi i fewn i hambwrdd
- tynnu eich esgidiau, cot, menig, het neu felt
- cerdded drwy synhwyrydd bwa
- cael eich gwirio gyda sganiwr llaw
Efallai y gofynnir i chi adael rhai eitemau gyda’r swyddogion diogelwch – byddwch yn eu cael yn ôl pan fyddwch yn gadael.
Bydd aelod o staff yn eich galw i mewn i’r ystafell wrandawiadau ac yn dangos i chi ble i eistedd.
Beth i’w wneud yn ystod y gwrandawiad
Mae’n rhaid i chi roi eich dyfeisiau symudol ar osodiad tawel pan fyddwch yn yr ystafell wrandawiadau.
Gallwch gymryd nodiadau, ond ni ddylech dynnu lluniau neu wneud fideos.
Pan fydd aelod o staff yn dweud ‘pawb i sefyll’ mae’n rhaid i chi sefyll i fyny. Mae hyn yn golygu bod y barnwr neu’r ynadon ar fin dod i mewn i’r ystafell. Byddant yn dweud wrthych pryd y gallwch eistedd i lawr eto.
Gallwch ofyn i aelod o staff os oes arnoch angen cymryd seibiant ar unrhyw adeg yn ystod eich gwrandawiad.
Beth i’w ddweud yn y gwrandawiad
Fel rhan o’r gwrandawiad, bydd rhywun yn esbonio pwy fydd yn siarad a phryd.
Byddwch yn cael amser i ofyn cwestiynau a rhoi tystiolaeth yn eich achos chi. Os oes gennych gyfreithiwr neu fargyfreithiwr, byddant yn gofyn cwestiynau i chi.
Os byddwch chi’n rhoi tystiolaeth yn ystod y gwrandawiad, gofynnir i chi dyngu llw neu wneud addewid rwymol gyfreithiol (a elwir yn gadarnhad) yn datgan bod eich tystiolaeth yn wir.
Bydd y tywysydd yn darllen y llw ac yn gofyn i chi ailadrodd y geiriau ar eu hôl. Bydd y llyfr sanctaidd perthnasol yn cael ei osod o’ch blaen, ond ni fydd angen i chi gyffwrdd â’r llyfr. Mae cadarnhau yr un mor ddifrifol ac arwyddocaol ac yn dod â’r un cyfrifoldebau â llw crefyddol. Os yw’n well gennych gadarnhau, bydd y tywysydd yn darllen y cadarnhad ac yn gofyn i chi ailadrodd y geiriau ar eu hôl.
Siaradwch yn glir ac yn gwrtais â’r barnwr neu’r ynadon. Mae’n iawn eu galw’n ‘farnwr’ os ydyn nhw’n farnwr, neu’n ‘syr’ neu’n ‘fadam’ os ydyn nhw’n ynad. Efallai y gwelwch fod rhai pobl yn ymgrymu i’r barnwr neu’r ynadon pan fyddant yn cerdded i mewn neu allan o’r ystafell wrandawiadau. Nid oes rhaid i chi wneud hynny, ond gallwch wneud hynny os ydych yn dymuno.
Ar ddiwedd y gwrandawiad
Gall y barnwr neu’r ynadon adael yr ystafell i feddwl am eu penderfyniad. Gallant wneud penderfyniad ar y diwrnod neu ei anfon atoch drwy’r post yn nes ymlaen.
Gadewch yr adeilad yn syth ar ôl eich gwrandawiad, mae hyn yn helpu i gyfyngu ar nifer y bobl y tu mewn ar unrhyw un adeg.
Updates to this page
-
Added a note about e-bikes and e-scooters
-
Updated Welsh language translation.
-
Hidden Disabilities Sunflower Network information has been added.
-
Added COVID-19 information
-
Updated following government's announcement on COVID-19 guidance.
-
Links to government guidance on self-isolation updated
-
Updated in response to latest guidance on the Omicron variant.
-
Updating links to self-isolation and other COVID guidance.
-
removed reference to clinically extremely vulnerable
-
Updates to content following changes to the Covid restrictions from 19 July 2021
-
Updated the Welsh version
-
Several changes to reflect update in Covid restrictions
-
Update to the guidance around COVID testing.
-
Updated Welsh language translation to reflect changes made to English version about COVID-secure practices.
-
Updated information throughout the page to highlight the need to follow COVID-secure practices.
-
Added section called 'Getting tested'.
-
Added translation
-
Added the section 'Who will be at your hearing'.
-
New Welsh version added.
-
Changes to update information regrading to coronavirus and lockdown / local restrictions guidance.
-
Changes to related links to provide information on courts opening and jury service
-
Add link to coronavirus guidance.
-
Added translation
-
First published.