Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn cefnogi defnyddwyr y llysoedd a thribiwnlysoedd sydd ag anableddau.


Beth yw addasiad rhesymol?

Addasiad rhesymol yw’r enw a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 am rywbeth a roddir mewn lle i ddileu rhwystrau fel bod pobl gydag anableddau yn cael mynediad cyfartal at ein gwybodaeth a’n gwasanaethau.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwarchod hawliau pobl sy’n byw gydag anableddau. Mae hyn yn golygu bod gennym ddyletswydd gyfreithiol i roi cymorth a chefnogaeth lle bo modd. Mae Adran 20 y Ddeddf yn darparu gwybodaeth am addasiadau rhesymol.

Pa addasiadau rhesymol gallwn ni eu darparu?

Yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) rydym eisiau sicrhau bod gan holl ddefnyddwyr y llysoedd a’r tribiwnlysoedd fynediad cyfartal at ein gwybodaeth a’n gwasanaethau. Gwyddwn fod pobl gydag anabledd angen cymorth neu rywbeth gwahanol wedi’i ddarparu weithiau i’w helpu. Trwy wrando’n astud arnoch a thrafod unrhyw cymorth rydych ei angen mewn ffordd sensitif, gallwn ddarparu addasiadau rhesymol i’ch cefnogi.

Dyma enghreifftiau o rai o’r addasiadau rhesymol y gallwn eu darparu:

  • toiledau hygyrch
  • egwyliau yn ystod gwrandawiad i helpu gyda chanolbwyntio
  • dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • ffurflenni mewn print bras
  • canllawiau mewn fformatau amgen gan gynnwys sain a fformat Hawdd i’w Ddarllen
  • offer cymorth clyw
  • rampiau

Nid yw hyn yn cynnwys popeth y gallwn ei wneud i helpu, oherwydd mae gan bawb anghenion unigol gwahanol.

Os ydych angen cefnogaeth yn yr ystafell wrandawiadau byddwn hefyd yn trafod hyn gyda’r barnwr sy’n gwrando’r achos. Mae barnwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu rhoi eu tystiolaeth orau a bod pawb yn cael gwrandawiad teg.

Sut i drefnu addasiad rhesymol

Os oes gennych anabledd sy’n golygu na allwch gael mynediad at ein gwybodaeth neu’n gwasanaethau, cysylltwch â ni. Bydd ein manylion cyswllt wedi’u nodi ar unrhyw lythyrau a gewch gennym, neu gallwch ddefnyddio’r adnodd Dod o hyd i lys neu dribiwnlys. Gallwch wneud cais am addasiad rhesymol dros y ffôn, yn bersonol neu yn ysgrifenedig.

Dylech geisio esbonio sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch a rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallwch am y cymorth rydych ei angen. Bydd hyn yn helpu ein staff neu’r barnwr i ystyried pa addasiadau rhesymol y gellir eu darparu i’ch helpu.

Mae’n rhaid i chi wneud cais am unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnoch ar gyfer pob achos. Byddwn yn rhoi prosesau mewn lle, fel nad oes rhaid i chi ailadrodd eich anghenion yn yr un achos. Os oes gennych achos arall, efallai bydd rhaid i chi ofyn eto am unrhyw addasiadau rydych eu hangen oherwydd efallai byddant wedi newid.

Rhwydwaith Blodyn Haul Anableddau Cudd

Rydym wedi ymuno â Rhwydwaith Blodyn Haul Anableddau Cudd i helpu pobl sy’n ymweld â llysoedd a thribiwnlysoedd a allai fod angen cefnogaeth ychwanegol.

Trwy wisgo’r cortyn blodyn haul, rydych yn dangos efallai bydd arnoch angen mwy o gymorth neu fwy o amser. Mae staff y llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn gyfarwydd â’r cortyn blodyn haul a gallant ofyn i chi beth gallwn ni ei wneud i helpu.

Mae cortynnau blodyn haul ar gael yn ein hadeiladau i gyd.