Cofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i gofrestru’ch cleient yn wirfoddol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os ydych yn asiant.
Os nad ydych yn asiant, mae ffordd wahanol o gofrestru fel unigolyn ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Beth yw’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd o roi gwybod am incwm a threuliau os yw’ch cleient yn unig fasnachwr neu’n landlord. Bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn:
- creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o incwm a threuliau eich busnes
- anfon eich diweddariadau chwarterol at CThEF
- cyflwyno eich Ffurflen Dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol
Pwy ddylai gofrestru a phryd
Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn wirfoddol ar hyn o bryd. Mae’n bosibl y gallwch gofrestru’ch cleient i’n helpu i brofi a datblygu’r gwasanaeth. Os yw’ch cleient am gofrestru ar yr adeg hon, gall eich cleient ddewis p’un a yw am i chi ei gofrestru am y canlynol:
- ar gyfer profi
- yn gynnar, fel y gallwch chi a’ch cleient fod yn barod i ddefnyddio’r gwasanaeth
Yn seiliedig ar y manylion yr ydych wedi’u rhoi, bydd CThEF yn gwirio a yw’ch cleient yn gymwys i cofrestru.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid i rai o’ch cleientiaid ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. P’un a oes raid i’ch cleient gofrestru yn dibynnu ar gyfanswm incwm blynyddol eich cleient o hunangyflogaeth neu eiddo.
Defnyddiwch ein hofferyn i gael gwybod a oes angen i’ch cleient gofrestru a phryd y dylai wneud hynny.
Os ydych yn gwybod pryd mae angen i’ch cleient gofrestru, gallwch ddarllen defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
- beth i’w ddisgwyl ar ôl i chi gofrestru
- y gwahanol gamau y bydd angen i chi eu cymryd yn ystod y flwyddyn dreth
- help a chymorth
Os yw’ch cleient yn dewis cofrestru nawr
Bydd yn dal i fod angen i chi neu’ch cleient anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.
Os bydd angen i’ch cleient gofrestru yn y dyfodol
Gallwch wneud un o’r canlynol:
- cofrestru ar gyfer profi’r gwasanaeth nawr, ar gyfer pob un o ffynonellau incwm eich cleient o hunangyflogaeth ac eiddo — ni fydd angen i chi gofrestru’ch cleient eto, ar ôl cofrestru am y tro cyntaf
- parhau i anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn ôl yr arfer a chofrestru ar ddyddiad hwyrach
Pwy sy’n gallu cofrestru’n wirfoddol
Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi pan fyddwch yn cofrestru’ch cleient. Bydd hyn yn cadarnhau a yw’ch cleient yn gymwys i gofrestru’n wirfoddol.
Gallwch gofrestru’ch cleient yn wirfoddol os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
- mae gan CThEF fanylion personol diweddaraf eich cleient
- mae’ch cleient yn breswylydd yn y DU
- mae gan eich cleient rif Yswiriant Gwladol
- mae’ch cleient wedi cyflwyno o leiaf un Ffurflen Dreth Hunanasesiad, neu rydych wedi gwneud hyn ar ei ran
- mae cofnodion treth eich cleient yn gyfredol — er enghraifft, nid oes unrhyw rwymedigaethau treth yn ddyledus
- mae ei gyfnod cyfrifyddu yn rhedeg o naill ai:
- 6 Ebrill i 5 Ebrill
- 1 Ebrill i 31 Mawrth — mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich meddalwedd chi a’ch cleient yn gallu cefnogi’r cyfnod cyfrifyddu hwn
Pwy na all gofrestru’n wirfoddol
Ni allwch gofrestru’ch cleient yn wirfoddol os yw’r canlynol yn wir:
- mae gan eich cleient gynllun talu gyda CThEF yn barod
- mae’ch cleient yn bartner mewn partneriaeth
- mae’ch cleient yn hawlio Lwfans Pâr Priod
- mae’ch cleient yn hawlio Lwfans Person Dall
- mae’ch cleient yn fethdalwr neu’n ansolfent ar hyn o bryd, neu byddwch yn fethdalwr neu’n ansolfent
- mae’ch cleient yn AS, yn weinidog yr efengyl neu’n danysgrifennwr Lloyds
- mae gan eich cleient incwm o fod yn ofalwr maeth mewn cynllun cysylltu bywydau
- mae gan eich cleient incwm o ymddiriedolaeth
- mae’ch cleient yn agored i ymholiad cydymffurfio
- mae’ch cleient yn defnyddio ‘trefniant cyfartalu’ neu drefniadau eraill oherwydd bod ei elw yn amrywio rhwng blynyddoedd — er enghraifft, oherwydd bod eich cleient yn ffermwr, yn awdur neu’n artist
Cyn i chi gofrestru’ch cleient
-
Gwiriwch a all eich cleient gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
-
Defnyddiwch feddalwedd sy’n cydweddu ac sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
-
Crëwch gyfrif gwasanaethau asiant, os nad oes gennych un eisoes. Mae’ch cyfrif gwasanaethau asiant yn wahanol i’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer asiantau (yn agor tudalen Saesneg).
-
Cael manylion eich cleient a manylion am ffynonellau incwm eich cleient.
-
Cael caniatâd eich cleient i’w gofrestru.
-
Cael eich cleient i’ch awdurdodi.
Dewis eich meddalwedd
Bydd angen i chi a’ch cleient gael meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Wrth ddewis meddalwedd, gwiriwch â’r darparwr meddalwedd bob amser i wneud yn siŵr ei bod yn bodloni eich anghenion.
Pa fanylion am eich cleient sydd eu hangen arnoch
Bydd angen manylion canlynol eich cleient arnoch:
- enw llawn
- eich dyddiad geni
- Rhif Yswiriant Gwladol
Os yw’ch cleient yn unig fasnachwr, bydd hefyd angen y canlynol arnoch:
- enw’r busnes — dyma’r enw mae’ch cleient yn ei ddefnyddio ar ei anfonebau
- cyfeiriad y busnes
- natur y busnes (masnach eich cleient)
Os oes gan eich cleient sawl ffynhonnell incwm, bydd angen i chi gofrestru pob un ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Bydd angen y canlynol arnoch ar gyfer bob un o ffynonellau incwm eich cleient:
- dyddiad dechrau ei fusnes, neu’r dyddiad y dechreuodd gael incwm o eiddo (os yw hyn o fewn y 2 flwyddyn dreth ddiwethaf)
- y dull cyfrifyddu fel cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) neu gyfrifyddu traddodiadol
- y flwyddyn dreth yr hoffai eich cleient ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Cyfnod cyfrifyddu eich cleient
Os yw’ch cleient yn defnyddio cyfnod cyfrifyddu sy’n rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth, dylech wneud yn siŵr bod y feddalwedd maent wedi’i dewis yn cefnogi hyn. Mae’n rhaid i chi neu’ch cleient hefyd wneud y canlynol:
- dewis cyfnodau diweddaru calendr yn y feddalwedd cyn gwneud y diweddariad cyntaf
- gwneud addasiad ar ddiwedd blwyddyn dreth gyntaf eich cleient — fel bod incwm a threuliau eich cleient o 1 Ebrill i 5 Ebrill wedi’u cynnwys yn ei Ffurflen Dreth
Cael caniatâd eich cleient
Dylech siarad â’ch cleient cyn i chi ei gofrestru. Dylech roi gwybod i’ch cleient:
- yr hyn yr ydych yn cofrestru’ch cleient ar ei gyfer
- yr hyn y mae’n ei olygu i’ch cleient
Bydd cosbau newydd CThEF yn berthnasol i’ch cleient os byddan nhw’n methu dyddiadau cau ar gyfer:
- cyflwyno ei Ffurflen Dreth
- talu ei fil
Ni fydd eich cleient yn cael cosb yn ystod y cyfnod profi am fethu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno diweddariad chwarterol.
Byddwn yn ysgrifennu at eich cleient i gadarnhau pan fydd yn dod yn agored i’r cosbau hyn.
Ychwanegu awdurdodiad gan eich cleient
Mae awdurdodiadau presennol gan eich cleientiaid ar gyfer Hunanasesiad yn cael eu cydnabod ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol. Os ydych wedi’ch awdurdodi gan eich cleient yn barod:
- ar gyfer Hunanasesiad yng ngwasanaethau ar-lein CThEF yn unig, efallai bydd angen i chi ychwanegu eich awdurdodiad o’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF i’ch cyfrif gwasanaethau asiant cyn cofrestru’ch cleient
- ar gyfer Hunanasesiad yn eich cyfrif gwasanaethau asiant, neu drwy ysgwyd llaw’n ddigidol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg), gallwch gofrestru’ch cleient — gweler adran ‘Sut i gofrestru eich cleient’
Os nad ydych wedi’ch awdurdodi yn barod gan eich cleient ar gyfer Hunanasesiad, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant a dilyn y camau yn eich cyfrif er mwyn gofyn i’ch cleient i’ch awdurdodi.
Ni fydd ychwanegu awdurdodiad eich cleient i’ch cyfrif gwasanaethau asiant yn ei dynnu o’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF.
Os nad ydych wedi cael awdurdodiad gan eich cleient, ni allwch gwblhau’r broses o gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Sut i gofrestru’ch cleient
Bydd arnoch angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a gawsoch wrth gofrestru ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Y camau nesaf
Darllenwch ragor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os oes gennych ymholiad am eich meddalwedd (fel sut i greu cofnodion ac anfon diweddariadau), cysylltwch â’ch darparwr meddalwedd.
Updates to this page
-
The 'Who cannot sign up voluntarily' section has been updated to remove those who have income from a furnished holiday let.
-
Steps about what you need to do before you have signed up your client in the system have been added. Information about what you need to do to make sure you are authorised for Self Assessment and Making Tax Digital for Income Tax in your agent services account has been added. Information about when penalties do and do not apply during the testing phase has been clarified.
-
The list of who cannot voluntarily sign up for Making Tax Digital for Income Tax has been updated.
-
Information added to confirm that you need to sign up each income source for Making Tax Digital for Income Tax if your client has multiple sources of income. Information added about what you need to do if your client has already authorised you for Self Assessment in your HMRC online services for agents account.
-
Information for users who want to voluntarily sign up now has been updated as you can now use the sign up service instead of a software provider. Information about who can and cannot sign up voluntarily has been updated.
-
Welsh translation added.
-
The date for helping to test and develop Making Tax Digital for Income Tax has been extended to 6 April 2026.
-
The steps to take and what you will need before using Making Tax Digital for Income Tax have been updated. You can check if you can voluntarily sign up your client now.
-
Information on what you'll need and before you sign up for Making Tax Digital for Income Tax has been updated.
-
Information on what to do after you've signed up your client has been updated.
-
A Welsh translation has been added.
-
Information in the 'Before you start' section has been updated with what you need to do before you can sign up a client for Making Tax Digital for Income Tax.
-
Information has been updated under 'before you start' to advise ways your client can authorise you through your agent service account.
-
Welsh translation has been added.
-
First published.