Cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i gofrestru’ch busnes yn ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ac i ddysgu beth i’w wneud nesaf.
Os ydych yn asiant, mae ffordd wahanol o gofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Beth yw’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd o roi gwybod i CThEF am incwm a threuliau os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord. Bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn:
- creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o incwm a threuliau eich busnes
- anfon eich diweddariadau chwarterol at CThEF
- cyflwyno eich Ffurflen Dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol
Pwy ddylai gofrestru a phryd
Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn wirfoddol ar hyn o bryd. Mae’n bosibl y gallwch gofrestru i’n helpu i brofi a datblygu’r gwasanaeth. Os ydych am gofrestru ar yr adeg hon, gallwch ddewis p’un a ydych am gofrestru:
- ar gyfer profi
- yn gynnar, fel y gallwch fod yn barod i ddefnyddio’r gwasanaeth
Yn seiliedig ar y manylion yr ydych wedi’u rhoi, bydd CThEF yn gwirio a ydych yn gymwys i gofrestru.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, efallai bydd yn rhaid i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. P’un a oes raid i chi gofrestru yn dibynnu ar gyfanswm eich incwm blynyddol o hunangyflogaeth neu eiddo.
Defnyddiwch ein hofferyn i gael gwybod a oes angen i chi gofrestru a phryd y dylech wneud hynny.
Os ydych yn defnyddio asiant, gall gofrestru ar eich rhan.
Os ydych yn gwybod pryd mae angen i chi gofrestru, gallwch ddarllen defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
- beth i’w ddisgwyl ar ôl i chi gofrestru
- y gwahanol gamau y bydd angen i chi eu cymryd yn ystod y flwyddyn dreth
- help a chymorth
Os ydych am gofrestru nawr
Bydd angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.
Os oes angen i chi gofrestru yn y dyfodol
Gallwch wneud un o’r canlynol:
- cofrestru ar gyfer profi’r gwasanaeth nawr — ar gyfer pob un o’ch ffynonellau incwm o hunangyflogaeth ac eiddo
- parhau i anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn ôl yr arfer a chofrestru ar ddyddiad hwyrach
Pwy sy’n gallu cofrestru’n wirfoddol
Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi pan fyddwch yn cofrestru. Bydd hyn yn cadarnhau a ydych yn gymwys i gofrestru’n wirfoddol.
Gallwch gofrestru’n wirfoddol os (yw pob un o’r canlynol yn berthnasol):
- mae gan CThEF eich manylion personol diweddaraf
- rydych yn breswylydd yn y DU
- mae gennych rif Yswiriant Gwladol
- rydych wedi cyflwyno o leiaf un Ffurflen Dreth Hunanasesiad
- mae’ch cofnodion treth yn gyfredol — er enghraifft, nid oes rhwymedigaethau treth yn ddyledus gennych
- rydych yn defnyddio cyfnod cyfrifyddu sy’n rhedeg o naill ai:
- 6 Ebrill i 5 Ebrill
- 1 Ebrill i 31 Mawrth — mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich meddalwedd yn gallu cefnogi’r cyfnod cyfrifyddu hwn
Pwy na all gofrestru’n wirfoddol
Ni allwch gofrestru yn wirfoddol os yw’r canlynol yn wir:
- mae gennych gynllun talu gyda CThEF yn barod
- rydych yn bartner mewn partneriaeth
- rydych yn hawlio Lwfans Pâr Priod
- rydych yn hawlio Lwfans Person Dall
- rydych yn fethdalwr neu’n ansolfent ar hyn o bryd, neu byddwch yn fethdalwr neu’n ansolfent
- rydych yn AS, yn weinidog yr efengyl neu’n danysgrifennwr Lloyds
- mae gennych incwm o fod yn ofalwr maeth mewn cynllun cysylltu bywydau
- mae gennych incwm o ymddiriedolaeth
- rydych yn agored i ymholiad cydymffurfio
- rydych yn defnyddio ‘trefniant cyfartalu’ neu drefniadau eraill oherwydd bod eich elw yn amrywio rhwng blynyddoedd — er enghraifft, oherwydd eich bod yn ffermwr, yn awdur neu’n artist
- rydych yn cofrestru ar ran rhywun arall (oni bai eich bod yn asiant) — mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- rydych yn ymarferwr ansolfedd
- rydych yn enwebai
- rydych yn gyfreithiwr
Cyn i chi gofrestru
Bydd angen i chi gael meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Wrth ddewis meddalwedd, gwiriwch â’r darparwr meddalwedd bob amser i wneud yn siŵr ei bod yn bodloni eich anghenion.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- dyddiad dechrau eich busnes, neu’r dyddiad y gwnaethoch ddechrau cael incwm o eiddo (os yw hyn o fewn y 2 flwyddyn dreth ddiwethaf)
- eich dull cyfrifyddu, megis cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) neu gyfrifyddu traddodiadol
- dewiswch y flwyddyn dreth yr hoffech ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Os ydych yn unig fasnachwr, bydd hefyd angen y canlynol arnoch:
- enw’ch busnes — dyma’r enw rydych yn ei ddefnyddio ar eich anfonebau
- cyfeiriad eich busnes
- natur eich busnes (eich masnach)
Os oes gennych sawl ffynhonnell incwm, bydd angen i chi gofrestru pob un ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Eich cyfnod cyfrifyddu
Rydych yn gallu defnyddio cyfnod cyfrifyddu sy’n rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth, os yw’r feddalwedd rydych wedi’i dewis yn cefnogi hyn. I ddefnyddio’r cyfnod cyfrifyddu hwn, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- dewis cyfnodau diweddaru calendr yn y feddalwedd cyn gwneud y diweddariad cyntaf
- gwneud addasiad ar ddiwedd eich blwyddyn dreth gyntaf — fel bod eich incwm a’ch treuliau o 1 Ebrill i 5 Ebrill wedi’u cynnwys yn eich Ffurflen Dreth
Sut mae cosbau yn berthnasol i chi
Bydd cosbau newydd CThEF yn berthnasol i chi os byddwch yn methu dyddiadau cau ar gyfer:
- cyflwyno’ch Ffurflen Dreth
- talu’ch bil
Ni fyddwch yn cael cosb yn ystod y cyfnod profi am fethu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno diweddariad chwarterol.
Byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau pan fyddwch yn dod yn agored i’r cosbau hyn.
Sut i gofrestru
Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair arnoch a gawsoch wrth gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, efallai y bydd gofyn i chi roi rhagor o dystiolaeth i brofi pwy ydych. Gallwch wneud hyn drwy’r dulliau canlynol:
- defnyddio ap ar eich ffôn symudol i baru llun o’ch wyneb â’r llun ar eich pasbort neu drwydded yrru
- ateb cwestiynau sy’n ymwneud â gwybodaeth sydd gennym yn barod am bwy ydych — er enghraifft, pasbort, cyfeirnod credyd, trwydded yrru, Hunanasesiad, P60 ddiweddaraf, neu slip cyflog diweddar
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Y camau nesaf
Bydd yn dal i fod yn rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth cyn i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Darllenwch ragor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os oes gennych ymholiad am eich meddalwedd (fel sut i greu cofnodion ac anfon diweddariadau), cysylltwch â’ch darparwr meddalwedd.
Updates to this page
-
The 'Who cannot sign up voluntarily' section has been updated to remove those who have income from a furnished holiday let.
-
Information about when penalties will be applied has been clarified. Information about identification checks that may happen when you sign up and about what you need to do if you want to sign up early or sign up in the future has been added.
-
The list of who cannot voluntarily sign up for Making Tax Digital for Income Tax has been updated.
-
Information added to confirm that you need to sign up each income source for Making Tax Digital for Income Tax if you have multiple sources of income.
-
On Monday 22 April information for users who want to voluntarily sign up now was updated as you can now use the sign up service instead of a software provider. Information about who can and cannot sign up voluntarily was updated.
-
Welsh translation added.
-
The date for helping to test and develop Making Tax Digital for Income Tax has been extended to 6 April 2026.
-
The steps to take and what you will need before using Making Tax Digital for Income Tax have been updated. The criteria for voluntarily signing up now has also been updated.
-
Information to check if you can voluntarily sign up now has been added. Information on what to do after you’ve signed up has been removed as this is covered in the Using Making Tax Digital for Income Tax guidance.
-
Information on what you'll need and before you sign up for Making Tax Digital for Income Tax has been updated.
-
Updated information on what to do after you've signed up.
-
Added translation
-
Information has been added to let you know that if you use an agent they can send you an authorisation request link.
-
Register for a webinar on 29 July for information on the Making Tax Digital for Income Tax pilot.
-
Welsh translation has been added.
-
First published.