Gwirio a yw neges destun a gawsoch gan CThEF yn ddilys
Gwiriwch restr o negeseuon testun diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw neges destun rydych wedi’i chael yn sgam.
Os nad yw’ch neges destun wedi’i rhestru yma, gwiriwch yr ohebiaeth gan CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull o gyfathrebu.
Negeseuon wedi’u brandio
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon negeseuon testun at rai o’n cwsmeriaid. Bydd y rhain yn edrych yn wahanol i’n negeseuon testun safonol.
Bydd y negeseuon hyn sydd wedi’u brandio yn:
- dangos Cyllid a Thollau EF fel yr anfonwr
- cynnwys logo CThEF
- cynnwys gwybodaeth am yr anfonwr sydd wedi’i ddilysu
Dylech hefyd ddarllen ein harweiniad ar sut i adnabod cyswllt amheus.
Os nad yw’ch dyfais yn un sy’n cydweddu i dderbyn neges Gwasanaethau Cyfathrebu Cyfoethog (RCS), bydd y neges wedi’i brandio yn ymddangos fel neges destun safonol.
Cysylltiadau mewn negeseuon testun
Mae CThEF yn anfon negeseuon testun at rai o’n cwsmeriaid.
Yn y neges destun, efallai y byddwn yn cynnwys cysylltiad i wybodaeth ar GOV.UK neu i wasanaeth sgwrs dros y we CThEF.
Ni fydd CThEF byth yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol wrth anfon negeseuon testun atoch.
Rydym yn eich cynghori i beidio ag agor unrhyw gysylltiadau, nac ymateb i unrhyw negeseuon testun, sy’n honni eu bod oddi wrth CThEF, ac sy’n cynnig ad-daliad treth yn gyfnewid am fanylion personol neu ariannol.
Er mwyn helpu gyda’r frwydr yn erbyn sgamiau gwe-rwydo, dylech anfon unrhyw negeseuon testun amheus i 60599 (costau rhwydwaith yn berthnasol) neu drwy e-bost: phishing@hmrc.gov.uk neu gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk ac yna dilëwch y negeseuon testun hynny.
Budd-dal Plant
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun er mwyn cadarnhau’r canlynol:
-
bod eich hawliad am Fudd-dal Plant wedi dod i’n llaw
-
eich bod wedi optio mewn neu optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant yn llwyddiannus
-
newid i’ch cyfrif
-
bod hawliad wedi bod yn llwyddiannus
Negeseuon testun i gadarnhau a diweddaru
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun i gadarnhau ein bod wedi cael y canlynol oddi wrthych:
-
hawliad
-
ffurflen
-
gohebiaeth arall
Gwaith Ymchwil o ran Pensiynau
O 6 Chwefror 2025 hyd at a chan gynnwys 28 Mawrth 2025, efallai y bydd yr asiantaeth ymchwil annibynnol, People for Research yn cysylltu â chi drwy neges destun.
Mae CThEF yn cydweithio â People for Research er mwyn ymgyfarwyddo yn well â phrofiadau cwsmeriaid o gael pensiwn.
Bydd y gwaith ymchwil hwn yn helpu i lywio’r dyluniad a’r gefnogaeth sydd yn cael ei gynnig gan wasanaethau CThEF i bobl sy’n cael pensiwn.
Mae’n bosibl y bydd People for Research yn cysylltu â chi drwy neges destun yn gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad 60-munud o hyd, un ai ar-lein, dros y ffôn, neu’n bersonol ym Manceinion.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir gennych:
-
yn gyfrinachol
-
yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
-
yn cael ei chadw’n ddiogel bob amser yn unol â chyfraith diogelu data
Ad-daliadau Treth Hunanasesiad
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon neges destun atoch os byddwch yn gofyn am ad-daliad treth hunanasesiad.
Bydd y neges destun yn cadarnhau’r canlynol:
- bod eich ad-daliad treth yn cael ei brosesu
- pryd y gallwch ddisgwyl ei gael
Ni fydd y neges testun yn gwneud y canlynol:
- gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol
- cynnwys unrhyw gysylltiadau i wefannau
Arolwg yn dilyn galwad i CThEF neu wiriad cydymffurfio
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon arolwg atoch ar ôl gadael drwy neges destun os ydych wedi gwneud y canlynol:
-
cytuno i roi adborth ar ôl ffonio un o’n canolfannau cyswllt
-
mynd drwy wiriad cydymffurfio
Ni fydd y neges destun hon yn:
-
gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol
-
cynnwys unrhyw rifau ffôn
-
darparu cysylltiadau i wefannau ar wahân i blatfform yr arolwg
Credydau treth
Efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun i gadarnhau eich cyfweliadau ynghylch hawliadau credyd treth, ac i’ch atgoffa amdanynt.
Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cysylltu â chi drwy neges destun i ofyn i chi ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i drafod eich hawliad.
Ni fydd y negeseuon testun hyn yn:
-
gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol
-
cynnwys unrhyw gysylltiadau i wefannau
Negeseuon testun eraill y dylech eu gwirio
Gallwch hefyd wirio’r negeseuon testun a restrir ar y dudalen gohebiaeth CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull o gyfathrebu.
Updates to this page
-
Information about Self Assessment tax refunds has been added.
-
Information on pension research has been added.
-
Information about HMRC branded text messages has been added.
-
Information has been added about National Minimum Wage — workers entitlement messages.
-
Information has been added about Child Benefit messages.
-
Information for Cost of Living Payments has been updated.
-
Information has been added about Cost of Living Payments for tax credits customers.
-
Added translation
-
Added translation
-
Information about when HMRC might send you a text message has been updated.
-
Information has been added about Self Assessment tax checks.
-
Information on 'Online sales' has been added. Information on 'Tax credits' has been updated to no longer say we will no longer ask you to call the tax credit helpline.
-
Added translation
-
Information about when HMRC might send you a text message if you call one of our helplines from a mobile phone, and what it might include has been added.
-
Information on tax credits has been updated.
-
Information on commercial drivers and online status checks has been added.
-
Information about Child Benefit has been added.
-
Information about tax credit renewals and Child Benefit has been added.
-
Information about commercial drivers and online status checks has been added.
-
HMRC appointment reminders section has been added.
-
Added information on EU Settlement Scheme.
-
Information on 'Post Office card accounts' and 'Self Assessment tax returns' has been added.
-
Information about EU Settlement Scheme has been added.
-
Added translation
-
We have added that we may text you to ask if you've told us about a change of circumstances for a young person on your tax credit claim.
-
Updated to show HMRC is using a new number to send text messages to customers.
-
Added translation