Gwirio a yw llythyr rydych wedi’i gael gan CThEF yn ddilys
Gwiriwch restr o lythyrau diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw llythyr rydych wedi’i gael yn sgam.
Os nad yw’ch llythyr wedi’i restru yma, gwiriwch yr ohebiaeth gan CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.
Incwm o werthiannau drwy farchnadoedd ar-lein
O 17 Chwefror 2025 hyd at a chan gynnwys 30 Mai 2025, mae’n bosibl y bydd CThEF yn ysgrifennu atoch.
Os gwnaethoch ennill incwm o farchnadoedd ar-lein, hyd at y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2023, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi.
Cewch gysylltiad i’n harweiniad ynghylch sut i roi gwybod i CThEF am dreth a dandalwyd o flynyddoedd blaenorol yn y llythyr hwn. Gallwch ddefnyddio’r arweiniad hwn i wneud y canlynol:
- datgelu unrhyw incwm a gafwyd o farchnadoedd ar-lein
- talu unrhyw beth sydd arnoch, gan gynnwys unrhyw log a chosbau
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn gofyn am wybodaeth bellach drwy e-bost.
Os nad oes gennych unrhyw incwm i’w ddatgan, mae angen i chi roi gwybod i ni gan naill ai:
- cysylltu â ni drwy e-bost
- cysylltu â ni dros y ffôn
Byddwn yn cysylltu â’r rhai nad ydynt yn dod ymlaen i wneud datgeliad.
Llythyr CA2490 — Cymhwystra ar gyfer Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref
Bydd CThEF yn anfon llythyr atoch os ydym o’r farn bod Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP) ar goll gennych.
Rydym am eich helpu i sicrhau eich bod yn cael y swm cywir o Bensiwn y Wladwriaeth, felly rydym yn gofyn i chi wirio a oeddech yn gymwys i gael HRP rhwng 1978 a 2010. Mae’n bosibl eich bod wedi bod yn gymwys os cawsoch Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 16 oed.
Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch wirio a ydych yn gymwys i hawlio Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref sydd ar goll, a sut i wneud hynny.
Llythyr CA4361 — cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy’r post os ydym o’r farn eich bod wedi talu gormod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth ynglŷn â’ch cyflogaeth yn y gorffennol.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ba flynyddoedd treth y bydd angen i ni gael gwybod amdanyn nhw a byddwn yn cynnwys manylion y cyflogwyr sydd gennym ar ein cofnodion.
Bydd y llythyr yn gofyn i chi ateb drwy wneud un o’r canlynol:
- llenwi’r ffurflen ar-lein
- llenwi a phostio’r ffurflen bapur sydd wedi’i hatodi i’r llythyr
Byddwn wedyn yn adolygu’r manylion rydych chi’n eu darparu ac yn cadarnhau os oes ad-daliad yn ddyledus i chi.
Llythyr IDMS99P — Asesiad Syml
Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy’r post i roi gwybod bod gennych daliad sy’n hwyr ar eich bil treth Asesiad Syml.
Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi:
- sut i dalu
- os na allwch dalu’n llawn ar hyn o bryd, i ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ar 0300 200 1900
- yr hyn a fydd yn digwydd os na fyddwch yn talu, neu os na fyddwch yn ein ffonio cyn pen 28 diwrnod o gael y llythyr hwn
Peidiwch ag anwybyddu’r llythyr.
Llythyr OCA300 — ad-daliad o ddidyniadau Benthyciad Myfyriwr
Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr i roi gwybod i chi fod ad-daliad o ddidyniadau Benthyciad Myfyriwr yn ddyledus.
Byddwn yn cynnwys manylion ynghylch pam mae’r ad-daliad yn ddyledus a’r cyflogwr y gwnaethoch weithio iddo ar y pryd.
Bydd y llythyr hwn yn rhoi gwybod i chi am newidiadau i’r ffordd yr ydym yn anfon ad-daliadau yn sgil coronafeirws (COVID-19).
Byddwn yn gofyn am wybodaeth bersonol er mwyn i ni allu gwneud ad-daliad yn gynt.
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gadarnhau bod y cysylltiad hwn yn ddilys.
Llythyr VPCF1 — penderfyniad i ganslo’ch cofrestriad TAW
Fel rhan o drefniadau diogelwch CThEF ynghylch cofrestru ar gyfer TAW, rydym yn gwirio cofrestriadau i brofi bod y bwriad i fasnachu yn ddilys.
Os ydym o’r farn nad ydych yn gymwys i gael eich cofrestru ar gyfer TAW, efallai y byddwch yn cael llythyr gennym i’ch hysbysu o’n bwriad i’ch datgofrestru.
Os byddwch yn anfon gwybodaeth atom i ddangos eich bod yn gymwys i gofrestru cyn pen 30 diwrnod, byddwch yn parhau i fod wedi’ch cofrestru. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu rheoli’ch cofnodion TAW gyda CThEF.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa wybodaeth a dogfennau i’w darparu. Os na fydd y rhain yn cael eu hanfon cyn pen 30 diwrnod, bydd CThEF yn datgofrestru’r busnes rhag TAW.
Os ydych yn cael ceisiadau pellach i anfon gwybodaeth at gyfeiriad e-bost sydd ddim yn gorffen â ‘hmrc.gov.uk’, ni fydd y ceisiadau hyn yn ddilys a dylech roi gwybod i CThEF.
Gallwch ffonio’r llinell gymorth ymholiadau TAW os oes angen cymorth pellach arnoch, neu os nad ydych yn siŵr a yw’r llythyr yn ddilys.
Efallai eich bod ynghlwm wrth arbed treth
Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr i’ch rhybuddio y gallech fod ynghlwm wrth arbed treth.
Byddwch yn cael llythyr:
- os yw’n systemau’n dangos y gallech fod yn defnyddio, neu wedi defnyddio, trefniadau cyflogaeth a oedd yn ynghlwm wrth arbed treth
- pan fydd CThEF yn cyhoeddi gwybodaeth am drefniadau arbed treth, ac am y bobl sy’n ymwneud â chyflenwi â marchnata’r trefniadau hyn
Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi:
- sut i wirio a allai’ch trefniadau cyflogaeth fod ynghlwm wrth arbed treth
- beth yw’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio trefniadau arbed treth
- am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu
Rydym am eich gwneud yn ymwybodol o’n pryderon cyn gynted â phosibl, fel na fyddwch yn cronni bil treth mawr.
Peidiwch ag anwybyddu’r llythyr hwn.
Dysgwch ragor ynghylch ymgyrch CThEF, Peidiwch â Chael Eich Dal Wrthi (yn agor tudalen Saesneg).
Hunanasesiad — hawlio ad-daliad
Efallai y cewch lythyr oddi wrth CThEF yn gofyn i chi gysylltu â ni ynghylch eich hawliad am ad-daliad.
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi anfon rhagor o wybodaeth atom er mwyn dilysu’ch hawliad.
Mae’n rhaid i chi ymateb i’r llythyr er mwyn i ni allu gwneud unrhyw ad-daliadau sy’n ddyledus i chi cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn cael ceisiadau pellach i anfon gwybodaeth at gyfeiriad e-bost sydd ddim yn gorffen â ‘hmrc.gov.uk’, ni fydd y ceisiadau hyn yn ddilys a dylech roi gwybod i CThEF.
Gallwch ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen cymorth pellach arnoch, neu os nad ydych yn siŵr a yw’r llythyr yn ddilys.
Gwirio a yw cod QR ar lythyr neu daflen gan CThEF yn ddilys
Gall llythyrau a thaflenni gan CThEF gynnwys cod QR y gallwch ei sganio i gael rhagor o wybodaeth neu help.
Taflen Budd-dal Plant — hawlio ar-lein
Mae CThEF yn rhoi taflenni i rieni newydd mewn ysbytai i’w hannog i hawlio Budd-dal Plant ar-lein ar ôl cofrestru genedigaeth eu plentyn.
Bydd y cod QR ar y daflen hon yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar sut i wneud hawliad am Fudd-dal Plant.
Taflen ac amlen ap CThEF
Gallwch weld y canlynol ar rai llythyrau a gewch gan CThEF:
- taflen ynghylch ap CThEF
- cod QR ar yr amlen
Bydd y cod QR ar yr amlen a’r daflen yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ynghylch ap CThEF, sy’n cynnwys gwybodaeth am:
- yr hyn mae’r ap yn ei wneud
- sut i gael mynediad at yr ap
Llythyr CHB297B — addysg amser llawn nad yw’n addysg uwch
Os ydych yn hawlio Budd-dal Plant, byddwch yn cael llythyr gan CThEF cyn y bydd eich plentyn yn troi’n 16 oed. Bydd y llythyr hwn:
- yn gofyn i chi gadarnhau a yw’ch plentyn yn parhau â’i addysg neu hyfforddiant
- yn cynnwys cod QR a fydd yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad er mwyn ymestyn eich hawliad ar-lein, os oes angen i chi wneud hynny
Llythyr P2 — hysbysiad cod treth
Efallai y byddwch yn cael llythyr os bydd eich cod treth yn newid.
Bydd y cod QR ar y llythyr hwn yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ynghylch codau treth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
- pam y mae’ch cod treth wedi newid
- sut i ddiweddaru’ch cod treth
Llythyr SA250 — llythyr o groeso i Hunanasesiad
Byddwch yn cael llythyr o groeso oddi wrth CThEF pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad gan ddefnyddio’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR).
Bydd y cod QR ar y llythyr hwn yn eich cyfeirio chi at ein manylion cyswllt ar gyfer Hunanasesiad. Bydd y dudalen hon yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch gysylltu â CThEF ynghylch Hunanasesiad.
Llythyr SA300 — Datganiad Hunanasesiad
Mae’n bosibl y cewch drosolwg o falans eich taliadau Hunanasesiad.
Bydd y cod QR ar y llythyr hwn yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad er mwyn deall eich datganiad Hunanasesiad.
Llythyr SA316 — Hysbysiad i gyflwyno Hunanasesiad
Mae’n bosibl y cewch Hysbysiad i gyflwyno pan fydd ein cofnodion yn dangos bod angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Bydd y cod QR ar y llythyr hwn yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ynghylch sut i lenwi eich Ffurflen Dreth ar-lein.
Llythyrau eraill y dylech eu gwirio
Gallwch hefyd wirio’r llythyrau a restrir ar y dudalen gohebiaeth gan CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.
Updates to this page
-
Guidance about possible involvement in tax avoidance has been updated.
-
Information about income earned from online marketplace sales has been added.
-
Information about VAT on private school fees — registration reminder for UK private schools has been added.
-
Information about QR codes on letters, leaflets and envelopes has been added to confirm where the QR codes appear and which pages the codes will direct you to.
-
Information about Small business — behaviours and attitudes following an HMRC enquiry has been updated.
-
Information about Self Assessment — overpayment of Class 2 National Insurance contributions has been added.
-
The 'Letter VPCF1 — decision to cancel your VAT registration' and 'Self Assessment — claiming a repayment' sections have been updated to tell you what to look for if you receive requests for further information.
-
Information about letter CA4361 — National Insurance contributions has been added.
-
Information about letter CH297B — Child Benefit full-time non-advanced education notification has been added.
-
Information about letter IDMS99P — Simple Assessment has been updated. Information about Individuals and the mid-sized businesses they are associated with has been removed.
-
Information about letter IDMS99P — Simple Assessment has been added.
-
Information about research into small business’ behaviours and attitudes following an HMRC enquiry has been added.
-
Information about individuals and the mid-sized businesses they are associated with has been added.
-
Information about possible involvement in tax avoidance schemes has been added.
-
Added translation
-
Information about establishment status for VAT has been updated.
-
Information about establishment status for VAT and letter CA2490 — Home Responsibilities Protection eligibility has been added. Information about child benefit take-up research and Stamp Duty Land Tax has been removed.
-
Information about individuals and the mid-sized businesses they are associated with has been added.
-
Information about Stamp Duty Land Tax — understanding customers experiences has been added.
-
Information on overdue deferred VAT has been removed.
-
Information about mid-sized business services has been added.
-
Added translation
-
Research into Child Benefit take-up, and businesses' views of HMRC customer service, have been added.
-
Information added on user research with businesses likely to fall within the Organisation for Economic Co-operation and Development (OECD) pillar 2 rules.
-
Information about paying overdue deferred VAT to avoid a penalty has been added.
-
Information about National Insurance category letter M — feedback about our Generic Notification Service has been added.
-
Information about Self Assessment repayment claims has been added.
-
Information about letter VPCF1 — decision to cancel your VAT registration has been added.
-
Information on experiences of pension scheme administrators has been added.
-
Information on the Cost of Living Payment has been added.
-
Information about letter OCA 300 — repayment of Student Loan deductions has been added.
-
Information about overpayments of SEISS (Self-Employment Income Support Scheme) grants, research into the Coronavirus Job Retention Scheme and Income Tax refunds if you claimed the first, second or third SEISS grants have been added.
-
Added information on research about the digitisation of Child Benefit.
-
Research with businesses on VAT submissions section has been added.
-
Information on Research into the impact of cash collection has been added.
-
Added 'Independent research ― understanding business customers’ use of their online tax account' section.
-
Added details of a letter being sent about regional information on Corporation Tax reliefs research.
-
Added details of a letter being sent out about research with mid-size businesses
-
Added translation