Astudiaeth achos

Hwb o £20 miliwn i Gwm Tawe Isaf

Dyfarnwyd £20 miliwn i Gyngor Abertawe i helpu i warchod treftadaeth ddiwydiannol Abertawe.

Bydd cyllid Ffyniant Bro yn rhoi bywyd newydd i ardal Afon Tawe. Bydd y pecyn o brosiectau yn gwella enw da Abertawe fel cyrchfan dreftadaeth ac yn dathlu ei hanes diwydiannol bywiog.

Gwaith Copr yr Hafod-Morfa

Bydd nodweddion treftadaeth ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa yn cael eu hadfer. Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi:

  • adfywio a gwarchod adeiladau rhestredig, gan eu rhyddhau at ddefnydd busnes a buddsoddiad pellach
  • mwy o gysylltedd ar gyfer cymunedau lleol ac ymwelwyr

Afon Tawe

Bydd cysylltiadau rhwng safle’r Gwaith Copr ac Afon Tawe yn cael eu gwella hefyd, gyda:

  • mynediad gwell i drafnidiaeth gyhoeddus ar fws, trên ac ar yr afon drwy ailddefnyddio bwâu rheilffordd Oes Fictoria
  • golau gwell ar hyd twneli’r Strand
  • podiau manwerthu newydd

Amgueddfa Abertawe

Bydd Amgueddfa Abertawe yn cael ei huwchraddio a’i gwella gydag:

  • arddangosfa, oriel a mannau dysgu newydd
  • mynediad gwell i ymwelwyr
  • caffi newydd

Darganfyddwch fwy am Levelling Up

Cyhoeddwyd ar 1 November 2023