Cymhwyster

Efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych ar incwm isel neu angen help gyda’ch costau byw. Gallech fod:

  • allan o waith
  • yn gweithio (gan gynnwys hunangyflogaeth a rhan amser)
  • yn methu gweithio, er enghraifft oherwydd cyflwr iechyd

I hawlio rhaid i chi fod:

  • yn byw yn y DU
  • yn 18 oed neu drosodd (mae rhai eithriadau os ydych chi rhwng 16 a 17 oed)
  • o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • â £16,000 neu lai mewn arian, cynilion a buddsoddiadau

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau i wirio pa fudd-daliadau y gallech chi eu cael.

Os ydych chi’n ddinesydd o’r UE, yr AEE neu’r Swistir

Efallai y bydd angen statws sefydlog neu wedi’i setlo ymlaen llaw arnoch chi a’ch teulu o dan Gynllun Setliad yr UE i gael Credyd Cynhwysol. Gwiriwch a allwch barhau i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE.

Os ydych chi’n byw gyda’ch partner

Bydd angen i’r ddau ohonoch hawlio am Gredyd Cynhwysol. Rhaid i chi wneud cais ar y cyd am eich cartref, hyd yn oed os nad yw’ch partner yn gymwys. Bydd faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm a chynilion eich partner, yn ogystal â’ch incwm chi.

Os yw un ohonoch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os mai dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch chi a’ch partner hawlio Credyd Cynhwysol fel cwpl o hyd. Bydd eich hawliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben pan fydd y ddau ohonoch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn bydd hwn yn dod i ben os ydych chi neu’ch partner yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Fel arfer byddwch well eich byd yn aros ar Gredyd Pensiwn, gallwch wirio gan ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau.

Os ydych chi’n astudio neu mewn hyfforddiant

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi mewn addysg amser llawn ac mae unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n byw gyda’ch partner ac maen nhw’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol
  • rydych chi’n gyfrifol am blentyn, naill ai fel person sengl neu fel cwpl
  • rydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn byw gyda phartner sydd o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch hefyd hawlio Credyd Cynhwysol os ydych chi’n 21 neu’n iau, yn astudio unrhyw gymhwyster hyd at Lefel A neu gyfwerth ac nad oes gennych gefnogaeth rhieni.

Efallai y gallwch hawlio os ydych chi’n astudio’n rhan-amser neu’n gwneud cwrs nad oes benthyciad na chyllid myfyriwr ar gael ar ei gyfer.

Gwiriwch y canllawiau ynghylch hawlio Credyd Cynhwysol fel myfyriwr.

Myfyrwyr ag anableddau neu gyflyrau iechyd

Gallwch hawlio Credyd Cynhwysol os ydych mewn addysg llawn-amser, ac wedi cael eich asesu fel bod â gallu cyfyngedig i weithio gan Asesiad Gallu i Weithio cyn dechrau eich cwrs. Rhaid i chi hefyd fod â hawl i unrhyw un o’r canlynol:

  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Taliad Plant Anabl (CDP) yn yr Alban
  • Lwfans Gweini
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Taliad Anabledd Oedolion (ADP) yn Yr Alban

Hawlio os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych gyflwr iechyd neu anabledd a bod gennych dystiolaeth feddygol ar ei gyfer, fel nodyn ffitrwydd
  • rydych yn gofalu am rywun sy’n cael budd-dal yn seiliedig ar iechyd neu anabledd
  • yn gyfrifol am blentyn
  • rydych chi’n byw gyda’ch partner, mae gennych gyfrifoldeb am blentyn ac mae’ch partner yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol
  • rydych chi’n feichiog ac yn disgwyl eich babi yn yr 11 wythnos nesaf
  • rydych chi wedi cael babi yn ystod y 15 wythnos ddiwethaf
  • nid oes gennych gefnogaeth rhieni, er enghraifft nid ydych yn byw gyda’ch rhieni ac nid ydych o dan ofal awdurdod lleol

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd

Os oes gennych gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio efallai y cewch arian ychwanegol ar gyfer Credyd Cynhwysol.