Cofnodion busnes os ydych yn hunangyflogedig

Sgipio cynnwys

Pa gofnodion i’w cadw

Bydd angen i chi gadw cofnodion o’r canlynol:

Pam fod angen i chi gadw cofnodion

Nid oes angen i chi anfon eich cofnodion pan rydych yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, ond bydd angen i chi eu cadw fel y gallwch wneud y canlynol: 

  • cyfrifo eich elw neu golled ar gyfer eich Ffurflen Dreth

  • eu dangos i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os gofynnir amdanynt

Mae’n rhaid i chi sicrhau’r canlynol:

  • bod eich cofnodion yn gywir 

  • eich bod yn gallu adnabod trafodion busnes

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu defnyddio cyfrif banc personol neu gyfrif banc busnes ar gyfer eich busnes. Gwiriwch gyda’ch banc pa fath o gyfrif y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer trafodion busnes.

Cadw tystiolaeth

Mae mathau o dystiolaeth yn cynnwys:

  • pob derbynneb ar gyfer nwyddau a stoc

  • cyfriflenni banc, bonion llyfr siec

  • anfonebau gwerthiannau, rholiau til a slipiau banc

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol

Yn ogystal â’r cofnodion safonol, bydd angen i chi hefyd gadw rhagor o gofnodion fel bod eich Ffurflen Dreth yn cynnwys:

  • yr hyn sy’n ddyledus i chi ond nad ydych wedi’i gael eto

  • yr hyn rydych wedi ymrwymo i’w wario ond nad ydych wedi’i dalu eto, er enghraifft rydych wedi cael anfoneb ond heb ei thalu eto

  • gwerth y stoc a’r gwaith ar y gweill ar ddiwedd eich cyfnod cyfrifyddu

  • eich balans banc ar ddiwedd y flwyddyn

  • faint yr ydych wedi’i fuddsoddi yn y busnes yn ystod y flwyddyn

  • faint o arian yr ydych wedi’i dynnu at eich defnydd eich hun