Cofnodion busnes os ydych yn hunangyflogedig
Trosolwg
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o incwm a threuliau eich busnes ar gyfer eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn hunangyflogedig fel:
-
unig fasnachwr
-
partner mewn partneriaeth fusnes
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Bydd angen i chi hefyd gadw cofnodion o’ch incwm personol.
Os mai chi yw’r partner enwebedig (yn agor tudalen Saesneg) mewn partneriaeth, mae’n rhaid i chi hefyd gadw cofnodion ar gyfer y bartneriaeth.
Mae rheolau gwahanol ar gadw cofnodion ar gyfer cwmnïau cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).
Cofnodi eich incwm a’ch treuliau
Os ydych yn paratoi cyfrifon ar gyfer eich busnes, bydd angen i chi ddewis y dyddiad y bydd eich cyfnod o gadw’r cofnodion hyn yn dechrau, a’r dyddiad y bydd y cyfnod hwn yn dod i ben – fel arfer, bydd y dyddiadau hyn yn aros yr un peth pob blwyddyn.
Efallai y bydd yn haws i chi lenwi’ch Ffurflen Dreth os yw’r dyddiad yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill). Mae hyn oherwydd bod Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyfrifo treth yn seiliedig ar y flwyddyn dreth. Os nad yw’ch cyfrifon yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth, bydd angen i chi ddyrannu elw i 2 gyfnod cyfrifyddu gwahanol.
Os nad ydych yn paratoi cyfrifon, bydd angen i chi gofnodi eich incwm a’ch treuliau ar gyfer pob blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill).
Dulliau cyfrifyddu
Bydd yn rhaid i chi ddewis dull cyfrifyddu.
O flwyddyn dreth 2024 i 2025 ymlaen, cyfrifyddu ar sail arian parod yw’r dull diofyn o gyfrifo (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i chi optio allan os ydych am ddefnyddio cyfrifyddu traddodiadol neu os na allwch ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod.
Cyfrifyddu ar sail arian parod
Gall y rhan fwyaf o fusnesau ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg).
Gyda’r dull hwn, rydych ond yn cofnodi incwm neu dreuliau pan fyddwch yn cael arian neu’n talu bil. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi dalu Treth Incwm ar arian nad ydych eto wedi’i gael.
Enghraifft
Rydych yn cofnodi eich incwm a’ch treuliau yn unol â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill). Gwnaethoch anfon anfoneb at rywun ar 15 Mawrth 2024, ond ni chawsoch yr arian tan 30 Ebrill 2024. Dylech gofnodi’r incwm hwn fel petai wedi dod i law ar 30 Ebrill 2024, hynny yw, ei gofnodi ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.
Cyfrifyddu traddodiadol
Mae llawer o fusnesau’n defnyddio cyfrifyddu traddodiadol lle rydych yn cofnodi incwm a threuliau yn ôl y dyddiad y gwnaethoch anfon anfoneb neu a gawsoch eich bilio.
Enghraifft
Rydych yn paratoi cyfrifon hyd at 31 Mawrth pob blwyddyn. Gwnaethoch anfon anfoneb at gwsmer ar 28 Mawrth 2024. Rydych yn cofnodi’r anfoneb honno ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 – hyd yn oed os na chawsoch yr arian tan y flwyddyn dreth nesaf.