Adnewyddu eich trwydded yrru yn 70 oed neu’n hŷn

Adnewyddu eich trwydded yrru ar-lein gyda DVLA am ddim os ydych yn 70 oed neu’n hŷn - neu eich bod yn 70 oed yn y 90 diwrnod nesaf.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Adnewyddu ar-lein

Dylai eich trwydded gyrraedd o fewn un wythnos os ydych chi’n gwneud cais ar-lein.

Dechrau nawr

Cynnwys

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i adnewyddu eich trwydded yrru Brydeinig os ydych yn 70 oed neu drosodd, neu byddwch yn 70 oed yn y 90 diwrnod nesaf, a:

  • bod eich trwydded Brydeinig wedi dod i ben - neu y bydd yn dod i ben o fewn 90 diwrnod
  • eich bod yn breswylydd ym Mhrydain Fawr (mae gwasanaeth gwahanol i gael yng Ngogledd Iwerddon)
  • eich bod yn bodloni’r safon golwg cyfreithiol
  • nid ydych wedi’ch gwahardd rhag gyrru am unrhyw reswm

Unwaith eich bod yn 70 oed, mae’n rhaid ichi adnewyddu pob 3 mlynedd.

Gallwch newid y ffotograff sydd ar y drwydded ar yr un pryd eich bod yn adnewyddu eich trwydded.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i adnewyddu hawl C1 (cerbydau maint canolig) neu D1 (bws mini) - mae’n rhaid ichi wneud hwn drwy’r post.

Beth sydd angen

Os nad ydych wedi defnyddio’r gwasanaeth hwn o’r blaen, mae angen ichi gofrestru â:

  • chyfeiriad e-bost
  • cyfeiriadau am ble rydych wedi byw am y 3 blynedd diwethaf
  • eich rhif Yswiriant Gwladol (os ydych yn ei wybod)
  • rhif pasbort y DU dilys (os ydych am newid y ffotograff sydd ar eich trwydded)

Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch unwaith eich bod wedi gwneud cais. Efallai y gofynnir ichi gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.

Gyrru tra bod eich trwydded gyda DVLA

Gallwch yrru tra bod eich trwydded yn cael ei hadnewyddu os ydych yn bodloni’r holl amodau canlynol:

  • bod gennych gefnogaeth eich meddyg i barhau i yrru
  • roedd gennych drwydded ddilys
  • rydych yn gyrru o dan amodau’r drwydded flaenorol yn unig
  • mae eich cais yn llai na blwydd oed
  • nid oedd eich trwydded ddiwethaf wedi cael ei diddymu na’i gwrthod am resymau meddygol
  • nid ydych wedi cael eich gwahardd ar hyn o bryd
  • nid oeddech wedi eich gwahardd fel troseddwr risg mawr ar neu ar ôl 1 Mehefin 2013

Darllen y canllaw ‘Gaf i yrru tra mae fy nghais gyda’r DVLA?’ am ragor o wybodaeth.

Gallwch wneud cais drwy’r post gan ddefnyddio’r ffurflen gais D46PW.

Bydd DVLA yn anfon y ffurflen hon atoch 90 diwrnod cyn eich penblwydd yn 70 oed.

Defnyddiwch y ffurflen gais am drwydded yrru D1W os nad oes gennych y ffurflen D46PW. Gallwch gael un yn y mwyafrif o Swyddfeydd Post.

Dylai eich trwydded yrru gyrraedd o fewn 3 wythnos. Efallai y bydd yn cymryd yn hirach os bydd angen gwirio eich manylion personol neu feddygol.