Dosbarthiadau Yswiriant Gwladol

Mae’r dosbarth yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth a faint rydych yn ei ennill. Gweler y cyfraddau presennol ar gyfer cyfraniadau Dosbarth 1, 2 a 4.

Os ydych yn gyflogedig

Bydd eich cyflogwr yn didynnu cyfraniadau Dosbarth 1 o’ch tâl yn awtomatig os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn iau nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • rydych yn ennill mwy na £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd

Caiff cyfraniadau Dosbarth 1A a Dosbarth 1B eu talu gan gyflogwyr ar dreuliau neu fuddiannau eu cyflogeion yn unig.

Os ydych yn ennill llai na £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd

Os ydych yn ennill rhwng £123 a £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd, ni fyddwch fel arfer yn talu Yswiriant Gwladol, ond efallai eich bod yn dal i fod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol a Phensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn ennill llai na £123 yr wythnos wrth gyflawni un swydd, gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn hunangyflogedig

Mae’r dosbarth rydych yn ei dalu’n dibynnu ar eich elw.

Os yw’ch elw yn £6,725 neu’n fwy y flwyddyn

Caiff cyfraniadau Dosbarth 2 eu trin fel pe baent wedi’u talu er mwyn diogelu eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2.

Os yw’ch elw yn fwy na £12,570 y flwyddyn, mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 4.

Os yw’ch elw yn llai na £6,725 y flwyddyn

Nid oes angen i chi dalu unrhyw beth, ond gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad ydych yn gweithio

Gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).