Treuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr

Neidio i gynnwys y canllaw

Eithriadau a goddefebau

Mae yna rhai treuliau arferol cyflogeion nad oes rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) amdanynt. Gelwir hyn yn ‘eithriad’.

Mae eithriadau wedi disodli goddefebau. Ni allwch wneud cais am oddefeb mwyach.

Treuliau sydd wedi’u cwmpasu gan eithriad

Nid oes rhaid i chi roi gwybod am rai treuliau busnes a buddiannau fel:

  • teithio busnes

  • biliau ffôn

  • treuliau busnes ar gyfer gwesteia

  • gwisg ac offer ar gyfer gwaith

I fod yn gymwys i gael eithriad, mae’n rhaid i chi fod naill ai:

  • yn talu cyfradd unffurf i’ch cyflogai fel rhan o’i enillion - mae’n rhaid i hyn fod naill ai’n gyfradd meincnod neu gyfradd arbennig (‘pwrpasol’) sydd wedi’i chymeradwyo gan CThEF

  • yn talu costau gwirioneddol y cyflogai yn ôl

Mae’n rhaid i chi ddidynnu a thalu treth ac Yswiriant Gwladol ar yr holl dreuliau a buddiannau eraill (yn Saesneg) rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion. Rhowch wybod i CThEF amdanynt yn ôl yr arfer.

Gwneud cais am eithriad

Nid oes angen i chi wneud cais am eithriad os ydych yn talu cyfraddau meincnod CThEF ar gyfer treuliau caniataol.

Mae ond angen i chi wneud cais am eithriad os ydych am dalu cyfraddau pwrpasol i’ch cyflogeion.

Bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth i CThEF fod y cyfraddau rydych yn eu hawgrymu yn seiliedig ar dreuliau gwirioneddol eich cyflogeion.

Os oedd gennych oddefeb gan CThEF

Ni fydd eich goddefeb yn berthnasol ar ôl 5 Ebrill 2016, ond dylai’r treuliau sydd wedi’u cwmpasu ganddi hefyd gael eu cwmpasu gan yr eithriad.

Os oedd eich goddefeb yn cynnwys cyfraddau pwrpasol, a chytunwyd arni ar ôl 6 Ebrill 2011, gallwch ofyn am ddefnyddio’r un cyfraddau pan fyddwch yn gwneud cais am eithriad.

Gallwch ond defnyddio’r cyfraddau pwrpasol am hyd at 5 mlynedd o’r dyddiad y cytunwyd arnynt ddiwethaf.

Gwirio treuliau

Mae’n rhaid i chi fod â system ar waith i wirio taliadau rydych yn eu gwneud ar gyfraddau meincnod neu bwrpasol.

Ni all eich cyflogeion wirio eu treuliau eu hunain.

Gofynnwch i’ch cyflogeion gadw tystiolaeth o’u treuliau, er enghraifft derbynebau neu filiau, rhag ofn bod angen i chi eu gwirio.