Toll Peiriannau Hapchwarae
Newidiwch eich manylion neu ganslo’ch cofrestriad
Mewngofnodwch i’r gwasanaeth Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) i wneud y canlynol:
-
diweddaru’ch manylion personol
-
canslo’ch cofrestriad, er enghraifft os nad ydych yn gyfrifol am y doll mwyach, neu os byddwch yn cael gwared ar y peiriannau, neu’n rhoi’r gorau i fasnachu
-
cofrestru fel rhan o grŵp o gwmnïau yn hytrach na fel unigolyn
-
ychwanegu, newid, neu ddileu unrhyw asiant sydd â’r awdurdod i gyflwyno Ffurflenni Treth ar eich rhan
Gallwch hefyd gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF). Bydd angen i chi roi’ch rhif cofrestru iddynt.
Os na fyddwch yn canslo pan nad ydych bellach yn gyfrifol am y doll, bydd CThEF yn parhau i anfon ceisiadau atoch ar gyfer Ffurflenni Treth a thaliadau.
Newid i gyflwyno ar-lein yn lle anfon Ffurflenni Treth papur
Os oes eisoes gennych gyfrif CThEF ar-lein, mewngofnodwch er mwyn ychwanegu’r gwasanaeth.
Fel arall, gallwch gofrestru ar gyfer cyfrif CThEF a chofrestru ar gyfer y Doll Peiriannau Hapchwarae.