Talu dirwy llys ar-lein

Bydd arnoch angen eich ‘hysbysiad o ddirwy’ a cherdyn debyd neu gerdyn credyd i dalu.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i dalu’r canlynol yng Nghymru a Lloegr:

  • dirwyon llys
  • iawndal
  • gordal dioddefwr
  • costau erlynydd
  • ffi’r llys troseddol
  • gorchmynion atafaelu
  • cosbau penodedig sydd wedi eu cofrestru mewn llys ynadon
  • ôl-doll treth car

Ni allwch dalu ffioedd llys na thocynnau parcio gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Rhaid i chi dalu erbyn y dyddiad sydd ar eich hysbysiad o ddirwy. Os bydd camau gorfodi wedi cychwyn efallai bydd y llys yn gwrthod eich taliad.

Os cawsoch ddirwy yn Llys y Goron, bydd arnoch angen rhif eich cyfrif a chod adran.

Os na allwch ddod o hyd i’ch hysbysiad o ddirwy, cysylltwch â’r llys ble cawsoch y ddirwy.

Rhaid i chi ddefnyddio gwasanaeth gwahanol i dalu dirwy llys yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban.

Ffyrdd eraill o dalu

Gallwch dalu eich dirwy llys dros y ffôn gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd.

Talu dirwy
Rhif ffôn: 0300 790 9901 (yn Lloegr)
Rhif Ffôn: 0300 790 9980 (yng Nghymru)
Gwybodaeth am gostau ffonio

Rhaid i chi gael eich hysbysiad o ddirwy gyda chi.

Cysylltwch â’r Swyddfa Gorfodi a restrir ar yr hysbysiad o ddirwy i dalu drwy ddebyd uniongyrchol, gyda cherdyn talu neu drosglwyddiad banc.