Talu dirwy DVLA

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i dalu:

  • dirwy am fethu ag yswirio eich cerbyd
  • dirwy am fethu â threthu eich cerbyd neu ddatgan bod eich cerbyd oddi ar y ffordd (HOS)
  • y dreth sy’n ddyledus gennych pan na wnaethoch drethu’ch cerbyd

Bydd eich llythyr cosb DVLA yn dweud wrthych faint sydd angen ichi ei dalu ac erbyn pryd y mae’n rhaid ichi ei dalu.

Os nad ydych yn talu’r ddirwy ar amser, gall eich cerbyd gael ei glampio neu’i falu, neu gall eich manylion gael eu rhoi i asiantaeth casglu dyledion.

Mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod wedi yswirio a threthu’ch cerbyd, gwneud HOS neu roi gwybod i DVLA nad yw’r cerbyd gennych bellach ar ôl ichi dalu’r ddirwy.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • rhif cofrestru’r cerbyd
  • y llythyr cosb a dderbynioch gan DVLA
  • cerdyn debyd neu gredyd i dalu’r ddirwy

Ffyrdd eraill o dalu

Dros y ffôn

Rhif ffôn: 0300 790 6808
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Cael gwybod am gostau galwadau

Drwy’r post

Anfonwch siec neu archeb bost yn daladwy i DVLA. Ysgrifennwch y rhif cofrestru cerbyd ar ei gefn.

Ni dderbynnir sieciau sydd wedi cael eu difetha neu eu newid.

Canolfan Gorfodaeth DVLA
D12 Longview Road
Treforys
Abertawe
SA99 1AH