Sut i bleidleisio
Pleidleisio drwy ddirprwy
Os na allwch bleidleisio yn bersonol, gallwch ofyn i rywun bleidleisio ar eich rhan. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy.
Dim ond o dan rai amgylchiadau y cewch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys:
- bod i ffwrdd ar y diwrnod pleidleisio
- wedi’ch cofrestru fel pleidleisiwr tramor
- problem feddygol neu anabledd
- methu pleidleisio yn bersonol oherwydd gwaith neu wasanaeth milwrol
Dylai eich dirprwy fod yn rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan. Bydd angen i chi ddweud wrtho dros ba ymgeisydd (neu ganlyniad refferendwm) rydych am bleidleisio.
Sut i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy
Gallwch wneud y canlynol:
- gwneud cais ar-lein am bleidlais drwy ddirprwy
- gwneud cais drwy’r post am bleidlais drwy ddirprwy yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- gwneud cais drwy’r post am bleidlais drwy ddirprwy yng Ngogledd Iwerddon
Rhaid i chi wneud cais erbyn:
- 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- 5pm, 14 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad yng Ngogledd Iwerddon
Gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng
Os bydd y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy wedi mynd heibio, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng os byddwch yn bodloni unrhyw un o’r canlynol:
- ni allwch bleidleisio yn bersonol oherwydd argyfwng meddygol neu anabledd
- ni allwch bleidleisio yn bersonol oherwydd eich gwaith
- mae’r prawf adnabod ffotograffig roeddech yn bwriadu ei ddefnyddio i bleidleisio ar goll, wedi’i ddwyn, wedi’i ddifrodi neu wedi’i ddinistrio
- nid ydych wedi cael prawf adnabod ffotograffig newydd neu un yn lle hen un rydych wedi’i archebu
Ni fydd angen i chi ddangos prawf adnabod ffotograffig i bleidleisio yn bersonol yn unrhyw etholiad neu refferendwm yn y DU. Cadarnhewch a oes angen i chi ddod â phrawf adnabod ffotograffig i bleidleisio.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gallwch wneud cais hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad.
Llenwch ffurflen bapur er mwyn:
- gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng yn seiliedig ar eich gwaith
- gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng yn seiliedig ar argyfwng meddygol neu anabledd
- gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng oherwydd nad oes prawf adnabod ffotograffig ar gael
Dylech ei hanfon i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.
Os ydych yn gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng oherwydd argyfwng meddygol, anabledd neu oherwydd eich gwaith, rhaid i’ch ffurflen gais gael ei llofnodi gan ‘berson priodol’ (er enghraifft, eich cyflogwr neu feddyg).
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng hyd at 6 diwrnod cyn yr etholiad.
Edrychwch ar wefan Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon i gael manylion am sut i wneud cais.
Am ba hyd y bydd eich pleidlais drwy ddirprwy yn para
Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy:
- ar gyfer etholiad neu refferendwm unigol ar ddyddiad penodol
- am gyfnod penodol os ydych am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- yn barhaol
Pwy all fod yn ddirprwy
Gallwch ofyn i unrhyw un weithredu fel eich dirprwy, ar yr amod bod yr unigolyn:
- wedi cofrestru i bleidleisio
- yn cael pleidleisio yn y math o etholiad a gynhelir
- yn gallu pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn pleidleisio
Bydd angen i’r unigolyn fynd â’i brawf adnabod ffotograffig ei hun gydag ef er mwyn pleidleisio mewn rhai etholiadau.
Os na all gyrraedd eich gorsaf bleidleisio, bydd angen iddo gysylltu â’ch Swyddog Cofrestru Etholiadol leol i drefnu i fwrw ei bleidlais drwy ddirprwy drwy’r post.
Newid neu ganslo eich pleidlais drwy ddirprwy
I newid pwy sy’n gweithredu fel eich dirprwy neu i ddechrau pleidleisio yn bersonol, cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.
Os byddai’n well gennych bleidleisio drwy’r post, cwblhewch ffurflen gais am bleidlais bost.