Rhoi gwybod i DVLA am gyflwr meddygol a allai effeithio ar eich gyrru

Mae’n rhaid dweud wrth DVLA am gyflwr iechyd neu feddygol a allai effeithio ar eich gyrru.

Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Saesneg (English) hefyd.

Bydd angen i chi roi manylion ynghylch eich trwydded yrru gyfredol a’ch cyflwr. Hefyd mae’n bosibl y bydd arnoch angen rhoi enw a chyfeiriad eich meddyg teulu.

Gallwch gael dirwy i fyny at £1,000 os nad ydych yn rhoi gwybod i DVLA ynghylch cyflwr meddygol sy’n effeithio ar eich gyrru.

Bydd gennych un awr i ychwanegu gwybodaeth unwaith eich bod yn dechrau. Ni allwch arbed a dychwelyd at eich cais yn ddiweddarach.

Dechrau nawr