Sut i brisio ystad at ddiben Treth Etifeddiant a rhoi gwybod am ei gwerth

Sgipio cynnwys

Os oes Treth Etifeddiant yn ddyledus neu os oes angen manylion llawn

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am werth yr ystad i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy lenwi ffurflen IHT400.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen cyn pen 12 mis i farwolaeth y person.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os byddwch yn methu’r dyddiad cau.

Cael prisiadau cywir

Bydd angen i chi roi prisiadau cywir wrth i chi lenwi’r ffurflen.

Gallwch gael prisiad o unrhyw eiddo neu dir gan asiant tai neu syrfëwr siartredig.

Gallwch hefyd gael prisiad proffesiynol ar gyfer unrhyw beth sy’n werth dros £1,500.

Gallwch amcangyfrif gwerth asedion rhatach, fel eitemau electronig a nwyddau arferol y tŷ.

Ar gyfer eitemau fel ceir, gemwaith a phaentiadau, cyfrifwch faint y byddech wedi’i gael pe byddech wedi’u gwerthu. Gallwch chwilio am eitemau tebyg ar farchnadoedd ar-lein i wneud hyn.

Rhoi gwybod am werth yr ystad drwy lenwi ffurflen IHT400

Mae angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen IHT400 (yn agor tudalen Saesneg). Anfonwch hi i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

Gallwch ddarllen arweiniad ar sut i lenwi ffurflen IHT400 (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch ofyn i CThEF gyfrifo faint o Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus, os ydych yn llenwi’r ffurflen heb help gan weithiwr profiant proffesiynol, megis cyfreithiwr. Gallwch wneud hyn wrth lenwi’r ffurflen.

Os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael help gyda llenwi’r ffurflen IHT400.

Sut i ddiwygio ffurflen ar ôl ei chyflwyno

Bydd angen i chi lenwi ffurflen cyfrif cywirol (yn agor tudalen Saesneg) a’i hanfon at CThEF os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau i wybodaeth rydych eisoes wedi’i chyflwyno.

Talu Treth Etifeddiant

Mae’n rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn diwedd y chweched mis ar ôl i’r person farw. Er enghraifft, os bu farw’r person ym mis Ionawr, bydd yn rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn 31 Gorffennaf.

Gallwch dalu fesul rhandaliad blynyddol ar gyfer rhai pethau a allai gymryd amser i’w gwerthu, megis tŷ.

Bydd angen i chi gael cyfeirnod Treth Etifeddiant oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF) o leiaf 3 wythnos cyn talu unrhyw dreth.

Pryd y gallwch wneud cais am brofiant

Ar ôl i chi anfon eich ffurflen IHT400 gyflawn i CThEF, bydd angen i chi aros i CThEF anfon llythyr gyda chod cyn i chi wneud cais am brofiant.