Lwfans Gweini

Neidio i gynnwys y canllaw

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Os bydd eich amgylchiadau’n newid, gall y swm a gewch o’r Lwfans Gweini godi neu ostwng.

Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r llinell gymorth Lwfans Gweini ar unwaith os:

  • mae lefel y cymorth sydd ei angen arnoch neu’ch cyflwr yn newid - bydd angen i chi ddarparu manylion fel a yw’r amseroedd y mae angen help arnoch bob dydd wedi newid
  • rydych yn mynd i’r ysbyty neu gartref gofal - bydd angen i chi ddarparu’r cyfeiriad, y dyddiadau rydych wedi bod yno, a sut y telir am eich arhosiad
  • mae gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw
  • rydych yn bwriadu gadael y wlad am fwy na 4 wythnos
  • rydych yn mynd i’r carchar
  • rydych yn newid eich enw, cyfeiriad neu fanylion banc
  • rydych am roi’r gorau i dderbyn eich budd-dal
  • mae manylion eich meddyg yn newid
  • mae eich statws mewnfudo yn newid, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig

Gallech gael eich cymryd i’r llys neu orfod talu cosb os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.

Llinell Gymorth Lwfans Gweini
Ffôn: 0800 731 0122
Ffôn testun: 0800 731 0317
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0122
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

Os ydych wedi cael eich talu gormod

Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os ydych:

  • heb roi gwybod am newid ar unwaith
  • wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • wedi cael eich gordalu trwy gamgymeriad

Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.